ALBAN ARTHAN

Yn y dechreuad ‘roedd tywyllwch mawr a thanau bach; arswyd y nos a’i duwch trwm, ofn bwganod a chysgodion. A phan oedd y nos ar ei fwyaf bygythiol, â hen obaith wedi hen oeri, dywedodd Duw: Bydded Goleuni, a goleuni a fu.

Felly, heddiw cofiwn sut mae tywyllwch yn bygwth ein byw, a’r duwch yn dofi ein gobaith. Mynnwn gyfle i agor ein henaid i belydrau cariad Duw, i ddeffro ein calon i wawr ei bresenoldeb.

Gydag amser, dechreuodd pobl Dduw ar eu taith. Pobl yn torri’n rhydd; pobl yn llusgo’u hunain ar draws yr anialwch sydd rhwng rhyddid a chaethiwed, gobaith ac anobaith, rhwng hen fyd a newid byd. Pan fu’r daith bron yn drech na hwy, a’r awydd i droi am yn ôl wedi cydio’n dynn, dywedodd Duw, Bydded Goleuni, a goleuni a fu.

Felly, heddiw cofiwn y daith; taith yr Adfent hwn, taith y flwyddyn hon, taith ein bywyd, gan estyn i Dduw'r cyfle i gyfeirio’n traed at y trugaredd a’r maddeuant sy’n eiddo i ni yn ein Harglwydd Iesu Grist, Goleuni’r Byd.

Gydag amser, er waetha’r proffwydi, er waetha’r lleisiau’n galw yn yr anialwch, aeth pobl Dduw i grwydro, i hel bwganod yn y cysgodion. Er bod pob greddf ynom yn dyheu am y golau, troesom tuag at y gwyll a’r gwyllt.

Felly, heddiw cofiwn y tueddiad a berthyn i bawb ohonom i grwydro oddi wrth oleuni Duw. Mynnwn gyfle i ganolbwyntio ar oleuni Duw. Boed i oleuni Duw yng Nghrist oleuo ein meddyliau, ein calonnau, ein gweithredoedd.

(OLlE)

 

CAPERNAUM

Pan aeth hi’n hwyr, aeth ei ddisgyblion i lawr at y môr, ac i mewn i gwch, a dechrau croesi’r môr i Gapernaum. Yr oedd hi eisoes yn dywyll...Yna, wedi iddynt rwyfo am ryw dair neu bedair milltir, dyma hwy’n gweld hwy’n gweld Iesu... (Ioan 6: 16,17 a 19)

Aros gyda ni, oherwydd y mae hi’n nosi, a’r dydd yn dirwyn i ben.

(Luc 24:29)

Yr adnod hon, bob tro, yw man cychwyn ‘Capernaum’. Mae’r adnod yn arwain at y weddi sy’n gweddu i bawb ohonom:

F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen.

Buddiol a bendithiol yr egwyl fach hon ar derfyn dydd, ac â’r Nadolig yn brysur agosáu, fe’n harweiniwyd, yn wahanol i’r arfer, nid at un o weddïau’r Beibl ond at Luc 2:1-20. Bwriad y Gweinidog oedd ein tywys trwy’r hanes cyfarwydd, a’i ddefnyddio’n gyfrwng i fyfyrdod gweddigar.

Dyma’r myfyrdod yn ei chrynswth. Os oes gennych gyfle nawr i ymdawelu, mae croeso i chi ei ddefnyddio fel hwb i ddefosiwn a gweddi.

Aeth pawb felly i’w gofrestru, pob un i’w dref ei hun. Oherwydd ei fod yn perthyn i dŷ a theulu Dafydd, aeth Joseff i fyny o dref Nasareth yng Ngalilea i Jwdea, i dref Dafydd a elwir Bethlehem... (Luc 2:3,4)

Yn dawel weddigar ystyriwch y cymunedau a’r bobl sydd yn rhan annatod o’r hyn ydych - y bobl a’ch creodd; y cymunedau sydd wrth wraidd yr hyn ydych.

...ac esgorodd ar ei mab cyntaf anedig; a rhwymodd ef mewn dillad baban a’i osod mewn preseb, am nad oedd lle iddynt yn y gwesty (Luc 2:7).

Yn dawel weddigar ystyriwch y bobl hynny sydd heb le yn y llety, heb aelwyd, heb wely...

Yn yr un ardal yr oedd bugeiliaid allan yn y wlad yn gwarchod eu praidd liw nos (Luc 2: 8).

Yn dawel weddigar ystyriwch y bobl a fu ac sydd yn eich gwarchod...

Ystyriwch, hefyd y rheini sydd yn cael ei gwarchod gennych...

...dywedodd yr angel wrthynt, ‘Peidiwch ag ofni...’ (Luc 2:10)

Mae’r cymal Peidiwch ag ofni yn ymddangos 366 o weithiau yn y Beibl. Unwaith i bob dydd o’r flwyddyn, ac un ychwanegol i Chwefror 29! Yn dawel weddigar cyflwynwch eich ofnau i Dduw.

...yr wyf yn cyhoeddi i chwi y newydd da am lawenydd mawr a ddaw i’r holl bobl...(Luc 2:10)

Yn dawel weddigar ystyriwch bob testun llawenydd.

...dyma sy'n llonni fy nodyn,

Fod Iesu yn Geidwad i mi.

(William Richards (Alffa) 1876-1931)

... ganwyd i chwi ... yn nhref Dafydd waredwr, yr hwn yw’r Meseia, yr Arglwydd...(Luc 2:11)

Yn dawel weddigar cydiwch yn y geiriau hyn, a’u perchenogi: ganwyd i mi waredwr ... yr hwn yw’r Meseia, yr Arglwydd.

Gadewch inni fynd i Fethlehem a gweld yr hyn sydd wedi digwydd ... (Luc 2:15)

Canmolwn y bugeiliaid am iddynt adael y defaid er mwyn gweld yr Oen. Ystyriwch, yn dawel weddigar y ‘defaid’ sydd yn eich rhwystro rhag canfod yr Oen.

... yr oedd Mair yn cadw’r holl bethau hyn yn ddiogel yn ei chalon ac yn myfyrio arnynt ... (Luc 2:19)

Yn dawel weddigar ystyriwch pa bethau sydd angen i chi'r Nadolig hwn i gadw’n ddiogel yn eich calon a myfyrio arnynt ...

Dychwelodd y bugeiliaid gan ogoneddu a moli Duw am yr holl bethau a glywsant ac a welsant ... (Luc 2:20)

Yn dawel weddigar gweddïwch gyda Jane Ellis:

O! deued pob Cristion i Fethlem yr awron

i weled mor dirion yw'n Duw;

O! ddyfnder rhyfeddod, fe drefnodd y Duwdod

dragwyddol gyfamod i fyw:

daeth Brenin yr hollfyd i oedfa ein hadfyd

er symud ein penyd a'n pwn;

heb le yn y llety, heb aelwyd, heb wely,

Nadolig fel hynny gad hwn.

Rhown glod i'r Mab bychan, ar liniau Mair wiwlan,

daeth Duwdod mewn baban i'n byd:

ei ras O! derbyniwn, ei haeddiant cyhoeddwn

A throsto ef gweithiwn i gyd.

(Jane Ellis, bl. 1840; CFf.: 472)

 

(OLlE)