…bawb dan ganu,
neidio, dawnsio a difyrru…
Rhys Prichard, 1579?-1644 (CFf.:436)
Sul felly bu hwn! Sul llawn canu; plant a phlantos yn neidio a dawnsio, a phawb o’r ieuengaf i’r hynaf yn difyrru. Rhaid dechrau yn y dechrau: canhwyllau’r Adfent.
Fesul Sul, cyneuwn gannwyll. Sul cyntaf yr Adfent, cyneuwyd cannwyll Gobaith: Yn wir, meddai’r Salmydd, yn Nuw yr ymdawela fy enaid; oddi wrtho ef y daw fy ngobaith (Salm 62:5).
Ail Sul yr Adfent, cyneuwyd cannwyll Cariad …nid yw cariad yn darfod byth… mewn gair, y mae ffydd, gobaith, cariad, y tri hyn, yn aros. A’r mwyaf o’r rhain yw cariad (1 Corinthiaid 13:8,13)
Y Sul aeth heibio, cyneuwyd cannwyll Llawenydd. Na thristewch; canys llawenydd yr Arglwydd yw eich nerth chwi. (Nehemeia 8:10).
Heddiw, daeth un o bobl ifanc yr eglwys, Nia, i gynnau cannwyll Tangnefedd. Rhodd gan Dduw yw tangnefedd; boed i’r tangnefedd hwnnw lifo ynom, trwom ac amdanom. Onid ein pennaf gyfrifoldeb yw bod yn gyfryngau tangnefedd Duw yn y byd?
‘Roedd ein cerddorfa ar waith heddiw yn arwain y mawl a chân, a mawr ein diolch amdanynt. Hyfrydwch oedd gweld nifer o’n haelodau ieuengaf yn ôl yn ein plith, â hwythau wedi dychwelyd o’r brifysgol am wyliau’r Nadolig. Yn sŵn y garol gyntaf, daeth amser y difyrru. O bryd i’w gilydd, mae ein Gweinidog yn troi ambell ddefod a’i ben i waered. Eleni, yn hytrach na bod y plant a’r plantos yn cyflwyno Drama’r Nadolig, gwnaethpwyd hynny gan yr oedolion. Pam? Er mwyn i’r plant a’r plantos cael gweld a deall fod cymryd rhan yng ngwedd gyhoeddus bywyd yr eglwys leol yn rhywbeth i dyfu i mewn iddo, yn hytrach na thyfu allan ohono!
Bu’r Gweinidog yn barddoni! ‘Roedd y sgript yn odli. (Cystal cydnabod nad cwbl ddiogel pob odl, ond ymdrechwyd ymdrech dda). Tair o fugeiliaid oedd gennym heddiw; arweinwyr ein timoedd Ysgol Sul. Buont yn bugeilio’r plantos a phlant trwy gydol y flwyddyn, a hwythau Rhian, Lowri ac Eleri oedd ein bugeiliaid heddiw. Bydd tamaid o’r sgwrs rhyngddynt yn ddigon i amlygu gwir safon y barddoni, ac ychydig o’r hwyl a chwerthin mawr a gafwyd. Ymunwn â’r ddrama wedi i’r angylion (sef pawb arall yn y capel) ymddangos i’r bugeiliaid:
Ifan - (Rhian)
Beth y’ch chi te, angylion fel?
Mae’ch hedfan a'ch canu chi'n swel.
Dai - (Lowri)
Be sy' mor sbesial am eni babi
Ma dau neu dri gan anti Beti.
Twm -(Eleri)
Mae’n rhaid yn wir fod hwn yn rhyfedd
i rain ddod lawr o’r nef bob modfedd!
 bod hynny ddim yn ddigon, dyma ymateb y Doethion, Llŷr (Balthasar), Dyfrig (Caspar) a Geraint (Melchior) i’r seren:
Balthasar - (Llŷr)
Ma’ hon yn seren wir unigryw
un sydd â neges i ddynolryw.
Caspar - (Dyfrig)
Ma ‘mhen i’n dost ar ôl ei watsho
fe gaf gwpaned a dwy aspro!
Melchior - (Geraint)
Edrych, edrych mae hi’n symud
o leia’ lathed bob rhyw funud.
Balthasar - Llŷr
At y camelod! Dewch, ie brysiwch
ei chanlyn gwnawn bob cam drwy’r twyllwch.
Yng nghanol y chwerthin, nis anghofiwyd y neges: y Gair yn gnawd - mawr ein braint. Nef a daear yn Iesu, ymhlyg yn ei gilydd, Duw a dyn mewn cwlwm diwahân. Â ninnau’n llawn sylweddoli fod rhai yn ein plith heddiw, yn ddwfn yn ei galar, cydiwn yn ein cysur a’n cymorth i fyw: Duw gyda ni, yng nghanol ein bywyd fel y mae, yn ei lawenydd mawr a’i ofid dwfn. Diolch am gael gweld ein Prynwr c’redig.
Er hwyl a neges cyflwyniad Nadolig yr oedolion, penllanw pob dathliad Nadolig yw’r plant, ac ymlaen y daethant i ganu ac annog-ganu. Llond y Set Fawr o fugeiliaid, doethion ac angylion; ambell Mair, un Joseff, asyn a seren, a phob un yn canu - y bychain hyn cododd wen, a thynnu deigryn y bore. Maent yn fendith i ni fel eglwys. Mawr ein diolch i'r timoedd Ysgol Sul ac i Cylch yr Ifanc am ei gwaith.
Bellach, daeth cyfle i ymlonyddu'r mymryn lleiaf. ‘Roedd y plantos a’r plant wedi mynd allan i’r festri i ddechrau ar ei dathliadau. Yn unol â hen arfer yn ein plith, bu pobl ifanc yr eglwys yn gweini ar y bychain. Diolch i bawb am ei gwaith yn gosod y festri a pharatoi pob math o ddanteithion i’r Parti mawr. Do, daeth Siôn Corn; diolch iddo.
Parhau â’r gyfres Adfent a wnaethom yn y capel. Un llun heddiw’r bore: ‘Breuddwyd Joseff’; 1773, gan Anton Raphael Mengs (1728-1779). Wedi darllen Mathew 1: 18-25 soniodd y Gweinidog am y prysurdeb sydd mor nodweddiadol o’r Nadolig; gyda phrysurdeb, daw blinder. Dyma Joseff, yn cysgu. Llethwyd ef nid gan brysurdeb, ond gan ofid: breuddwydion am fywyd newydd, cyfle newydd a dechreuad newydd gyda Mair ei ddyweddi - bob un ar chwâl, pob peth yn deilchion. Mae Joseff wedi llwyr ymlâdd. Daw angel. Â’i fys, cyfeiria’r angel at gornel tywyllaf yr olygfa, fel petai’n dweud mai o’r fan honno, o ganol tywyllwch y gofid, yr ofnau a’r ansicrwydd, y daw’r Newyddion Da. Bu gofid pennaf Joseff yn gyfrwng bendith heb ei debyg.
Dymunwn, wrth gwrs, ‘Nadolig Hapus’ i’n gilydd; boed i ni weddïo am ‘Nadolig Llawen’ i’n gilydd hefyd. Nid gwarant o hapusrwydd yw ffydd, ond sicrwydd o lawenydd nad yw’n ddibynnol ar amgylchiadau, na phleserau, na phethau, na theimladau, ond sy’n ffrydio o Gariad Duw - cariad sydd ynom, trwom, amdanom, yn ein mysg ac o’n hamgylch. Boed i ni brofi o wefr llawenydd Duw yn Iesu Grist.
'Ac wedi elwch, tawelwch fu'; liw nos, oedfa dawel. Hyd yn hyn yn y gyfres o fyfyrdodau'r Adfent, buom yn ystyried portread o Eseia Broffwyd gan Michelangelo Buonarroti (1475-1564) a The Last Judgement 1912 gan Wassily Kandinsky (1866-1944); Coeden Jesse gan Absolon Stumme (m. 1499); Ioan Fedyddiwr yn Pregethu gan Mattia Preti (1613-1699). Ioan Fedyddiwr yn yr Anialwch gan Geertgen tot Sint Jans (1465-1495). Ioan Fedyddiwr yn Pregethu, gan Anton Raphael Mengs (1728-1779); ffresgo gan Domenico Ghirlandaio (1449-1494): Ioan Fedyddiwr yn Pregethu a Breuddwyd Joseff gan Anton Raphael Mengs (1728-1779).
Tri llun oedd gennym o dan sylw heno: ‘Cyfarchiad Gabriel gan John Collier (gan. 1948); (Luc 1: 26-38). Ceir dwy neges yn y llun hwn. Derbyn Mair Air Duw: Dyma lawforwyn yr Arglwydd; bydded i mi yn ôl dy air di (Luc 1: 38). Ofer hynny, heb ein bod ninnau, fel Mair, yn derbyn ac ildio i Air Duw: bydded i mi ... i ni yn ôl ei air Ef.
Bébé (The Nativity), 1896 gan Paul Gauguin (1848-1903); (Philipiaid 2: 1-18). Sylla’r ddynes â phlentyn yn ei chôl tros ei hysgwydd tuag atom. Nid Mair mohoni; gwelir Mair yng nghefn y llun. Iesu yw’r bychan yng nghôl y ddynes. O edrych dros ei hysgwydd mae’n paratoi i gynnig y baban i’n gofal ni. A ydym yn barod i ddal y bychan rhyfeddol hwn?
Geni Crist, Liw Nos, c.1490 gan Geertgen tot Sint Jans (1465-1495). (Ioan 1: 1-5). Neges syml sydd gan y llun: Iesu yw’r goleuni. O’r bychan hwn daw pob golau yn y llun. Yn Oleuni’r byd, ohono daw sanctaidd dân (R. R. Morris, 1852-1935; C.Ff.: 584). Llewyrched felly eich goleuni gerbron dynion (Mathew 5:16 WM).
Diweddglo’r gyfres hon fydd ‘Y Geni’ (1777) gan John Singleton Copley (1738-1815). Cawn gyfle Noswyl Nadolig i ystyried arwyddocâd y llun hwn. Byddwn hefyd yn cynnau cannwyll olaf y torch Adfent - cannwyll Iesu: Y mae’r goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch, ac nid yw’r tywyllwch wedi ei drechu ef (Ioan 1:5).
Wedi gosod her i aelodau’r eglwys gefnogi ymdrechion Banc Bwyd Caerdydd trwy gyfrannu tunnell o fwyd yn ystod blwyddyn waith yr eglwys, Medi 2014/Awst 2015, llwyddwyd i gyrraedd y nod bedwar mis yn gynnar ym mis Ebrill. Yng ngoleuni’r galw parhaus a chynyddol dyma benderfynu anelu at gyfrannu ail dunnell o fwyd erbyn mis Rhagfyr eleni. Diolch i haelioni aelodau’r eglwys gwelwyd y blychau casglu bwyd yn y festri yn gyson lawn drwy’r haf a’r hydref a llwyddwyd i daro targed yr ail dunnell yn gyfforddus ar drothwy’r Nadolig. Diolch yn fawr iawn i bawb am eu cefnogaeth i’r ymgyrch!
‘Roedd cyfle, drwy gyfrwng y Casgliad Rhydd, yn oedfaon y dydd i gyfrannu tuag at waith Cyngor yr Ysgolion Sul.
Bu i’r gymdeithas barhau yn Koinônia: swper blasus a sgwrs ddifyr mewn bwyty Eidalaidd cyfagos.
Bydd Oedfa’r Nadolig yng Nghapel Minny Street am 10yb yng nghwmni cyfeillion Eglwys y Crwys. Llywyddir yr oedfa gan ein Gweinidog; pregethir gan y Parchedig Lona Roberts (Eglwys y Crwys).
Dydd Sul, Rhagfyr 27 am 10:30 Oedfa Foreol dan arweiniad ein cyd-aelod, y Parchedig Menna Brown. Ni fydd Oedfa Hwyrol ym Minny Street.