ALBAN ARTHAN

Yn y dechreuad ‘roedd tywyllwch mawr a thanau bach; arswyd y nos a’i duwch trwm, ofn bwganod a chysgodion. A phan oedd y nos ar ei fwyaf bygythiol, â hen obaith wedi hen oeri, dywedodd Duw: Bydded Goleuni, a goleuni a fu.

Felly, heddiw cofiwn sut mae tywyllwch yn bygwth ein byw, a’r duwch yn dofi ein gobaith. Mynnwn gyfle i agor ein henaid i belydrau cariad Duw, i ddeffro ein calon i wawr ei bresenoldeb.

Gydag amser, dechreuodd pobl Dduw ar eu taith. Pobl yn torri’n rhydd; pobl yn llusgo’u hunain ar draws yr anialwch sydd rhwng rhyddid a chaethiwed, gobaith ac anobaith, rhwng hen fyd a newid byd. Pan fu’r daith bron yn drech na hwy, a’r awydd i droi am yn ôl wedi cydio’n dynn, dywedodd Duw, Bydded Goleuni, a goleuni a fu.

Felly, heddiw cofiwn y daith; taith yr Adfent hwn, taith y flwyddyn hon, taith ein bywyd, gan estyn i Dduw'r cyfle i gyfeirio’n traed at y trugaredd a’r maddeuant sy’n eiddo i ni yn ein Harglwydd Iesu Grist, Goleuni’r Byd.

Gydag amser, er waetha’r proffwydi, er waetha’r lleisiau’n galw yn yr anialwch, aeth pobl Dduw i grwydro, i hel bwganod yn y cysgodion. Er bod pob greddf ynom yn dyheu am y golau, troesom tuag at y gwyll a’r gwyllt.

Felly, heddiw cofiwn y tueddiad a berthyn i bawb ohonom i grwydro oddi wrth oleuni Duw. Mynnwn gyfle i ganolbwyntio ar oleuni Duw. Boed i oleuni Duw yng Nghrist oleuo ein meddyliau, ein calonnau, ein gweithredoedd.

(OLlE)