Tymor yr Adfent - 4
Gyda'r cant a mil o bethau sydd raid eu gwneud bob Nadolig, mae yna fil a chant o bethau yr hoffem eu gwneud na chawn yr amser i’w gwireddu. Anodd darganfod y cyfuniad angenrheidiol o amser, egni ac amynedd i gyflawni’r pethau hyn. Onid un o nodweddion yr adeg hon o’r flwyddyn yw prysurdeb: mynd a dod, mewn ac allan, hwnt ac acw, lan a lawr, a hyn, llall ac arall. Gyda phrysurdeb, daw blinder, a gyda’r blinder hwnnw weithiau daw diffyg amynedd, gor-barodrwydd i rwgnach a chrintach, i weld bai a ‘phigo ffeit’! Cywir?
Breuddwyd Joseff (1773) gan Anton Raphael Mengs (1728-1779): (Mathew 1: 18-25). Ers clywed am newyddion Mair, bu Joseff - tal a chydnerth - mewn dryswch. ‘Roedd yna benderfyniadau anodd yn hawlio sylw; breuddwydion am fywyd, cyfle a dechreuad newydd gyda Mair ei ddyweddi ar chwâl, yn deilchion ar y lawr. O ganlyniad i hyn oll, amhosibl oedd cysgu; gormod o ofidiau yn gwthio, gwasgu a thynnu. Oherwydd hyn byddai cwsg yn ei oddiweddyd yn ystod y dydd, gan amlaf, yn gwbl ddirybudd. Yn y llun gwelir Joseff yn cysgu! Gorffwys, dim ond gorffwys oedd y syniad gwreiddiol. Eistedd yn dawel am funud fach i ddal ei wynt a hel meddyliau; trodd y gorffwys yn pendwmpian ac, o dipyn i beth, rhaid oedd gosod gên ar ddwrn ... y llygaid yn mynnu cau, a chyn pen chwinciad mae Joseff yn cysgu! Y gwirionedd yw bod Joseff wedi llwyr ymlâdd. Amdano mae clogyn trwm; go brin fod yn y dilledyn hwn unrhyw gysur. Fel ei ofidiau, mae’r clogyn yn un trwm â Joseff yn plygu, bron, dan ei bwysau. Llaciodd y saer cyhyrog ei afael ar ei ffon; bydd honno, cyn hir, yn cwympo i’r llawr. Yn y cyfamser, gwêl yr angen ei gyfle; mae ganddo neges i Joseff. Daw’r angel fel golau i dywyllwch trwm cwsg Joseff. Nid yn y golau y mae’r angel; yr angel yw’r golau. Perthyn i’r angel ysgafnder llawen sydd mewn gwrthgyferbyniad llwyr a bwriadol â phwysau prudd gofid Joseff. Mae’r angel yn y llun i bwrpas. Goleuni ydyw; gobaith, sicrwydd, cyfeiriad a phwrpas yw hwn. Â’i fys, cyfeiria’r angel at gornel tywyllaf yr olygfa, fel petai’n dweud mai o’r fan honno, o ganol tywyllwch y gofid, yr ofnau a’r ansicrwydd, y daw’r Newyddion Da. O ganol y tywyllwch hwn daw ffydd i gynnal ffydd Joseff, gobaith â digon o sylwedd i Joseff fedru gobeithio ynddo, a chariad werth mentro arno. Pa ryfedd felly ... pan ddeffrodd Joseff o’i gwsg, gwnaeth fel yr oedd yr angel yr Arglwydd wedi gorchymyn, a chymryd Mair yn wraig iddo. (Mathew 1:24).
Bu gofid pennaf Joseff yn gyfrwng bendith heb ei debyg. Dymunwn, wrth gwrs, ‘Nadolig Hapus’ i’n gilydd; boed i ni weddïo am ‘Nadolig Llawen’ i’n gilydd hefyd. Nid gwarant o hapusrwydd yw ffydd, ond sicrwydd o lawenydd nad yw’n ddibynnol ar amgylchiadau, na phleserau, na phethau, na theimladau ond sy’n ffrydio o Gariad Duw - cariad sydd ynom, trwom, amdanom, yn ein mysg ac o’n hamgylch. Cariad sy’n llond pob lle, presennol ym mhob man (David Jones, 1805-68; C.Ff.: 76). Dyma pam, er na fedrir dymuno ‘Nadolig Hapus’ i’r galarus, y digalon a’r siomedig yn ein plith; gellir, ac yn wir dylid, dymuno ‘Nadolig Llawen’ iddynt. Gellir a dylid dymuno Nadolig yn llawn llawenydd oherwydd hanfod y llawenydd y sonnir amdano yn y Beibl yw adnabod a charu Duw, ymddiried ynddo ac agor iddo. Boed i ni brofi o wefr llawenydd Duw yn Iesu Grist.