Chwiliwch heddiw am yr angel hwn a'r adnod hon:
TURNER
'Westminster Sunset Goodwin, Albert' - J. M. W. Turner
Heddiw, yn 1851 bu farw Joseph Mallord William Turner (gan. 1775) Un o bennaf arlunwyr Prydain. Turner, yn anad neb a ddysgodd pobl i weld gwerth y tirlun. Llwyddodd Turner, mewn bwrlwm byw o liw a symud, i ddal gogoniant tirwedd ar gynfas. Mae’r lluniau yn gyfarwydd iawn bellach, ond yn eu cyfnod, ‘roedd y lluniau hyn yn tarfu ar bobl, gan mor gwbl anghyfarwydd y testun: gwawr a machlud, llif afon a thonnau'r môr; tirwedd. Ehangodd Turner gylch celfyddyd ei gyfnod i gynnwys prydferthwch cynhenid natur. Cyn Turner, ystyriwyd tirwedd yn ddim byd amgenach na chefndir; gwaith diflas i arlunwyr eilradd oedd tirwedd. Gellid awgrymu yn lled ddiogel mai pennaf gamp Turner oedd cael pobl, trwy gyfrwng ei gelfyddyd, i 'weld' y gogoniant gorwel, afon a môr; ac o weld, gwerthfawrogi. Un peth yw 'edrych', peth cwbl arall yw 'gweld'
'Shoreham Bay, Evening Sunset' John Constable
'Roedd John Constable (1776-1837) yn un o gyfoedion Turner. Mynnai Constable:
There is nothing ugly: I never saw an ugly thing in my life. Let the form of an object be what it may - light, shade and pesrpective will allways make it beautiful.
Mae Turner a Constable, y naill a'r llall yn ein hatgoffa o ogoniant y greadigaeth. Gall y materol amlygu’r cysegredig; ym mhlygion y materol mae’r ysbrydol yng nghudd.
Tueddwn i rannu bywyd yn barhaus yn faterol ac ysbrydol, yn gorff ac enaid, a sôn am bopeth yn ei le a'i le i bopeth. Cyfyngir felly ar y cysegredig; gwasgir Duw i ryw gornel o’n bywyd. Hanfod y Nadolig yw gwneud i ffwrdd â chrefydd fel cylch ar wahân ym mywyd pobl. Ym Methlehem daw crefydd a bywyd - Duw a dyn - yn un: calon a chnawd, corff ac enaid, ein hysbrydolrwydd a'n materoliaeth yn un. Ehangwyd cylch y cysegredig i gynnwys popeth bywyd: nid oes neb na dim yn hyll na diflas bellach; nid oes yr un sefyllfa ddynol, felly’n anobeithiol.
(OLlE)
'ANGEL AG ADNOD' ADFENT Y TEULU (21)
Chwiliwch heddiw am yr angel hwn a'r adnod hon:
BABIMINI - SIÔN CORN!
Cwmni bychan, ond dedwydd ddaeth ynghyd heddiw i Babimini. Cafodd y rhieni hwyl a chwmni, sgwrs a phaned; a’r plantos hwyl a chân, chwarae a chwerthin a heddiw: ymweliad ac anrheg fechan gan Siôn Corn. Gorffwysed bendith ar Babimini. ‘Rydym wir yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal y fenter bwysig hon.
'ANGEL AG ADNOD' ADFENT Y TEULU (20)
Chwiliwch heddiw am yr angel hwn a'r adnod hon:
METHIANT A LLWYDDIANT
Golygydd Sgriptiau Gomedi’r BBC 1974:
I’m afraid I thought this was as dire as its title ... a collection of cliches and stock characters which I can’t see being anything but a disaster.
Enw’r rhaglen? Fawlty Towers gan John Cleese a Connie Booth - yr enwocaf o’r sitcoms!
Dyma ymateb RSO Records i gerddoriaeth Paul David Hewson a’i fand ... we have listened to your music with careful consideration, but feel it is not for us at present.
Adwaenir Mr Hewson bellach fel Bono; a’r band yw U2.
Cafodd gŵr ifanc y sack o’i waith fel newyddiadurwr.
Do wir. A beth oedd y rheswm am hynny? Ei ddiffyg dychymyg.
Pwy oedd y gŵr ifanc hwnnw?
Walt Disney.
Wedi screen test, meddai’r cyfarwyddwr am un ymgeisydd: Can’t act. Slightly bald. Can dance a little.
Pwy oedd yr ymgeisydd aflwyddiannus?
Fred Astaire
Mynnai’r athro fiolín nad oedd dyfodol cerddorol i'r gŵr ifanc hwn (Ganed ef ym mis Rhagfyr 1770, ac yntau oedd man cychwyn y Munud i Feddwl hon)
Pwy oedd y disgybl hwnnw tybed?
Ludwig van Beethoven.
Mae’r flwyddyn galendr yn dirwyn i ben. Bu hon, fel pob blwyddyn, yn gymysgedd o lwyddo a methu, ennill a cholli, siom a balchder iach. Wrth ystyried y llwyddiannau, cofiwn nad pluen mewn het mo llwyddiant, ond pluen mewn saeth. Boed i ti, fi a ni, oherwydd bob llwyddiant hedfan yn uwch a phellach nag y buom erioed o’r blaen, er clod a gogoniant i Dduw.
Bu sawl methiant, colled a siom hefyd, ond, mae pob siomi, colli a methu yn gyfle i ddechrau o’r newydd; a phob dechreuad newydd yn gyfle i ddechrau o’r newydd yn gallach mewn gwasanaeth a gweinidogaeth.
Er i’m calon a’m cnawd ballu, eto mae Duw yn gryfder i’m calon ac yn rhan imi am byth (Salm 73:26).
'ANGEL AG ADNOD' ADFENT Y TEULU (19)
Chwiliwch heddiw am yr angel hwn a'r adnod hon:
HER YR AIL DUNNELL
Warws Banc Bwyd Caerdydd...
Yn y glorian cyfraniadau bwyd mis Rhagfyr...
200.5 kg o fwyd!
Llwyddasom i daro targed Tunnell 2 cyn 'Dolig!
Cyfanswm cronnus yr Ail Dunnell felly yw 1 dunnell a 110 kg.
Cyfrannwyd y dunnell gyntaf o fwyd mewn wyth mis. Llwyddwyd i gyrraedd yr ail dunnell (+110 kg dros ben!) eto, o fewn wyth mis.
Diolch i bawb am ei gwaith.