Tymor yr Adfent - 5
Y Cyfarfyddiad Rhyfedd a Rhyfeddol rhwng Mair a Gabriel gan John Collier (gan. 1948); (Luc 1: 26-38). Nodweddir celfyddyd Collier gan ei allu i osod hanes mewn cyd-destun cyfoes. Yn y llun hwn gosodir Mair a Gabriel gyferbyn â’i gilydd; Mair yn darllen Gair Disglair Duw yn awgrym o’i natur ddefosiynol. Cynrychiola’r lili ei phurdeb. Uwchben adenydd Gabriel cynrychiolir yr Ysbryd Glân gan golomen. Symbolau cyfarwydd a dealladwy yw’r rhain. Ond! Portreadir Mair fel merch ysgol, yn byw yng nghanol swbwrbia. Sylwer ar ei hesgidiau. Mae’r caerau heb eu clymu; gwthiodd hon ei thraed i ba bynnag esgidiau oedd mwyaf cyfleus. Sylwer hefyd bod y drws wedi cau tu ‘nôl i Mair; nid oes bellach dychwelyd i’r hyn a fu. Wrth iddi syllu at Gabriel, nid oes yr awgrym lleiaf o ofn na dryswch. Yn wir, mae ei thraed yn symud ymlaen, yn hyderus, tuag at yr angel ... bydded i mi yn ôl dy air di (Luc 1:38). Pa ryfedd bod Gabriel yn ymgrymu iddi? Gwêl Gabriel yr hyn na welwn ni, sef y cryfder a ddaw o eiddilwch ... cryfder sydd yn dal y pwysau i gyd (Eben Fardd, 1802-63; C.Ff.: 739). Perthyn yr arlunydd i’r Eglwys Rufeinig ac onid oes rhywbeth offeiriadol yn osgo Gabriel? Mae holl osgo Gabriel yn ymgorfforiad o was offeiriad yn gwasanaethu wrth yr allor, yn gymorth i’r offeiriad weinyddu’r offeren lle derbynnir corff Crist gan bobl. Ceir dwy neges yn y llun hwn. Derbyn Mair Air Duw: Dyma lawforwyn yr Arglwydd; bydded i mi yn ôl dy air di (Luc 1: 38). Ofer hynny, heb ein bod ninnau yn derbyn ac ildio i Air Duw: bydded i mi ... i ti ... i fi ... i ni yn ôl ei air Ef.
Bébé (The Nativity), 1896 gan Paul Gauguin (1848-1903); (Philipiaid 2: 1-18). Fe’n tynnir gan y llun i ganol realiti’r ymgnawdoliad; dwy wraig, baban, angel ac anifeiliaid. Sylla’r ddynes â phlentyn yn ei chôl tros ei hysgwydd tuag atom. Saif yr angel yn ei gwarchod. Nid Mair mohoni; gwelir Mair yng nghefn y llun mewn gwawl o olau glân. Iesu yw’r bychan yng nghôl y ddynes, ond gwyddom mai Mair sydd wedi esgor ar y baban. Mae mab Mair bellach ym mreichiau dynes arall gydag angel Duw yn sefyll gerllaw! Aruchel y fraint a dderbyniodd y ddynes hon i gael dal y Gair yn Gnawd yn ei breichiau. O edrych dros ei hysgwydd mae’n paratoi i gynnig y baban i’n gofal ni. A ydym yn barod i ddal y bychan rhyfeddol hwn? Ymhlith holl ryfeddodau’r nef hwn yw y mwyaf un - gweld yr anfeidrol, ddwyfol Fod yn gwisgo natur dyn. (William Williams, 1717-91; C.Ff.: 292). Trwy ei ddewrder mentra Duw ymwneud â chreadur mor wamal â dyn ... mae’n ymddiried ynom, gan orwedd yn fychan gwan yn ein breichiau.
Geni Crist, Liw Nos, c.1490 gan Geertgen tot Sint Jans (1465-1495). Llun tywyll, mae wedi nosi. Mae’n fwriad gan yr arlunydd i asio Mathew a Luc, gan blethu Ioan ynddynt: Yn y dechreuad yr oedd y Gair; yr oedd y Gair gyda Duw, a Duw oedd y Gair. Daeth pob peth i fod trwyddo ef; hebddo ef ni ddaeth un dim i fod. Yr hyn a ddaeth i fod, ynddo ef bywyd ydoedd, a’r bywyd, goleuni dynion ydoedd. Y mae’r goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch, ac nid yw’r tywyllwch wedi ei drechu ef (Ioan 1: 1-5). Neges syml sydd gan y llun: Iesu yw’r goleuni. O’r bychan hwn daw pob golau yn y llun. Yn Oleuni’r byd, ohono daw sanctaidd dân (R. R. Morris, 1852-1935; C.Ff. 584). Un o hanfodion Adfent yw tywyllwch. Wrth gynnau cannwyll newydd o Sul i Sul nesawn at ddyfodiad Goleuni’r Byd. Y Sul Cyntaf - Gobaith; yr Ail Sul - Cariad’ y Trydydd - Llawenydd; a’r Pedwerydd - Tangnefedd. Noswyl Nadolig, cyneuir y gannwyll wen - Crist. Gellid gwneud hyn mewn ffordd amgen! Cynnau'r canhwyllau i gyd ar Sul cyntaf yr Adfent, ar wahân i gannwyll Crist; yna, o Sul i Sul diffodd y naill gannwyll ar ôl y llall, gan ystyried o ddifri beth yw Gobaith, Cariad, Llawenydd a Thangnefedd a sut y gallwn, fel unigolion ac fel eglwysi, fod yn gyfryngau i Dangnefedd, i Lawenydd, i Gariad a Gobaith. Yna, ar noswyl Nadolig, yng nghanol y tywyllwch hwnnw, cynnau cannwyll Crist, a’r fflam yn ennyn ynom sanctaidd dân.