SALM

Salm 133 a 134

Deuai’r pererinion o bell ac agos, ond yr un dyhead oedd yn eu cynnal bob un. Er gwaethaf pob gwahaniaeth, undeb dwfn yw undeb pobl Dduw. Yr undeb hwn a ganmolir yn y ddwy salm sydd yn destun sylw heddiw. Da, a dymunol yw’r undeb hwn. Bendith ydyw. Ceir dwy gymhariaeth hapus. Dywedir bod undeb fel olew gwerthfawr ar y pen, yn llifo i lawr dros y farf (Salm 133:2). Iraist fy mhen ag olew (Salm 23:5) fel arwydd o groeso. Nid oedd croeso i Iesu yng nghartref Simon: Fe mhen ag olew nid iraist (Luc 7:46). ‘Roedd olew hefyd yn arwydd o gysegru ac ymgysegru. Eneiniodd Moses Aaron ag olew er mwyn ei gysegru’n offeiriad (Lefiticus 8:12).

Dywedir fod undeb fel gwlith mynydd Hermon (Salm 133:3a). Mae hwnnw’n 9000 o droedfeddi o uchder ac mae eira arhosol ar ei gopa. Dyna ffynhonnell y gwlith bendithiol sydd yn llifo, medd y Salmydd, ac yn disgyn i lawr ar fryniau Seion (Salm 133:3b)

Yn Salm 134, try’r pererinion am adref ond fe bery’r addoliad yn y deml ddydd a nos. Bydd gweision yr ARGLWYDD yn ei fendithio gan godi eu dwylo yn y cysegr mewn gweddi a bendith. Bydded i’r ARGLWYDD eich bendithio o Seion (Salm 134:3); a’th fendithio di allan o Seion sydd gan William Morgan. Ie, allan o Seion, ac i’r holl fyd llifed cymod a bendith undeb pobl Dduw.

DALIWN ATI I DDAL ATI

'Munud i Feddwl' ein Gweinidog

 

Heddiw, yn 1329 bu farw Robert the Bruce (g.1274). Mae’r hen goel am Robert a’r pry copyn yn gyfarwydd a phwysig. Dywedir i Robert, ar ôl cael ei orchfygu droeon ar dro, ffoi, a chael nodded mewn hen ysgubor. ‘Roedd Robert wedi llwyr ymlâdd - digalon a diflas ydoedd. Gwelodd yno bry copyn yn ceisio gwau ei we. ‘Roedd y we yn ddiogel mewn un man, ond ‘roedd rhaid angori pen arall y we. Ceisiodd y pry copyn wneud hynny, a methu. Ceisiodd eilwaith, a thrachefn, ond yn aflwyddiannus hyd y degfed tro, pryd llwyddodd. Bu mynych a dygn ymdrechion y pry cop yn ysbrydoliaeth i Robert. Aeth yn ôl i’r frwydr, wynebodd ei elynion, a’r tro hwn Robert a orfu. Hen goel; neges oesol gyfoes: dalifyndrwydd.

Saif Ofn ar riniog y drws, gan guro, curo a churo drachefn: daliwn ati i ddal ati i gyhoeddi Nid oes ofn mewn cariad. (1 Ioan 4:18a)

Saethu a thrywanu. Safwn â'n pennau’n ein dwylo, ac wylo; wylo am eraill, ac wylo amdanom ein hunain. Daliwn ati i ddal ati i gyhoeddi: Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, y Tad sy’n trugarhau a’r Duw sy’n rhoi pob diddanwch. Y mae’n ein diddanu ym mhob gorthrymder, er mwyn i ninnau, trwy’r diddanwch a gawn ganddo ef, allu diddanu’r rhai sydd dan bob math o orthrymder. (2 Corinthiaid 1:3,4)

Beth bynnag ddaw yn sgil yr Etholiad Cyffredinol yfory, daliwn ati i ddal ati i gyflawni’r gwaith byth-a-beunydd o ledaenu daioni a lledu trugaredd: gwneud beth sy’n iawn, caru teyrngarwch, ac ymostwng i rodio’n ostyngedig gyda’th Dduw. (Micha 6:8b)

Yng nghanol casineb ac anras, daliwn ati i ddal ati i amlygu gras: Glynwch wrth ddaioni. (Rhufeiniad 12:9)

Yn nrygioni’r byd, daliwn ati i ddal ati i gyhoeddi na fu, nid yw, ni fydd y drwg yn drech na’r da: Safwch yn gadarn da orthrymder. (Rhufeiniad 12:12)

Daliwch ati i weddïo (Rhufeiniad 12:12): O’n gweddïau does unlle yn y byd yn rhy bell.

Daliwn ati i ddal ati i hau trugaredd mewn tir o garreg: mae'r un weithred rasol yn drech na'r holl drahauster.

Yr unig beth i’w wneud yw hau fel y carem fedi.

(OLlE)

SALM

Salm 53

Dywed yr ynfyd yn ei galon, "Nid oes Duw." (Salm 53:1).

Gwelir yma’r credadun yn cyhuddo’r anghredadun o ynfydrwydd - ffolineb. Golygfa wahanol a welir yn ein dyddiau ni. Gwelir heddiw, yr anghredadun yn cyhuddo’r credadun o’r ffolineb eithaf. O’r ddwy, rhaid i’r credadun ddewis yr olaf. Nid yn ei ddawn ddifenwi y gorwedd cryfder y credadun ond yn ei barodrwydd i gael ei ddifenwi er mwyn ei Dduw.

Yn ôl pryddest Cynan (1895-1970), cyhuddwyd y cenhadwr John Roberts (1853-1949) o’r ffolineb eithaf pan benderfynodd fynd yn genhadwr dros Iesu i Tsieina.

Ffŵl, ffŵl i’th gladdu dy hun

Yn China ddyddiau d’oes,

A thaflu gyrfa aur i ffwrdd

I sôn am Waed y Groes.

Erys her yng ngeiriau Halford Luccock (1885-1961): The Christian religion never strikes its most compelling notes, never gets into the treble clef, until it frankly admits the charge that it is tinged with irrationality.

CYTGAN

Pwy yw hon sy’n dod i fyny o’r anialwch,

yn pwyso ar ei chariad?

Deffroais di dan y pren afalau,

lle bu dy fam mewn gwewyr gyda thi,

lle bu’r un a esgorodd arnat mewn gwewyr.

Gosod ni fel sêl ar dy galon,

fel sêl ar dy fraich;

oherwydd y mae cariad mor gryf â marwolaeth,

a nwyd mor greulon â’r bedd;

y mae’n llosgi fell ffaglau tanllyd

fel fflam angerddol.

(Caniad Solomon 8:5-7 BCNad)

Canys cariad sydd gryf fel angau: cytunai’r esbonwyr i gyd mai dyma uchafbwynt Caniad Solomon. Nid hardd a da yn unig mo cariad, ond cryf hefyd - mor gryf â marwolaeth ei hun. Onid cryfach? Tân ysol ydyw, a wrthwyneba ac a ddeil yn erbyn pob ymgais i’w ddiffodd. Nid rhywbeth sentimental ydyw; gall wynebu, a goresgyn unrhyw a phob peth.

Benthycwn brofiad William Williams (1717-91), yn sbardun i fyfyrdod pellach a gweddi:

Anfeidrol felys yw dy hedd,

a chryf dy gariad fel y bedd.

Amen