Brysia allan, fy nghariad,
a bydd y debyg i afrewig,
neu’r hydd ifanc
ar fynyddoedd y perlysiau.
(Caniad Solomon 8:14 BCN)
Fe ddaethom i ddiwedd ein taith trwy gân y caniadau: Caniad Solomon. O holl lyfrau’r Hen Destament nid oes un yn anos i’w ddehongli na hwn. Mae’r gwahanol ddehongliadau ohono’n frith, ond prin yw’r pregethu ohono. Ysbrydolodd lenorion, beirdd ac emynwyr ymhob oes. Stori garu ydyw. Mae’r stori garu yn dechrau, yn naturiol, gyda’r amlygiad naturiol o gariad: cusan.
Cusaned fi â chusanau ei fin (1:2 WM).
Mae’r stori garu hon yn gorffen gydag amlygiad naturiol arall o gariad: brys. Traed cyflym sydd gan gariad bob amser: Brysia allan, fy nghariad. Mawr yw angen bro, gwlad a byd am Gariad ein Duw. Rhaid brysio gyda’r neges am y Cariad hwn.
Mae’r nodyn allweddol hwn o frys yn emyn mawr Morgan Rhys (1716-79). Benthycwn y geiriau yn sbardun i fyfyrdod, gweddi a gwasanaeth pellach:
Dewch, hen ac ieuainc, dewch
at Iesu, mae'n llawn bryd;
rhyfedd amynedd Duw
ddisgwyliodd wrthym cyd:
aeth yn brynhawn, mae yn hwyrhau;
mae drws trugaredd heb ei gau.
Dewch, hen wrthgilwyr trist,
at Iesu Grist yn ôl;
mae'i freichiau nawr ar led,
fe'ch derbyn yn ei gôl:
mae Duw yn rhoddi eto'n hael
drugaredd i droseddwyr gwael.
(OLlE)