Pwy yw hon sy’n ymddangos fel y wawr, yn brydferth fel y lloer, yn ddisglair fel yr haul, yn urddasol fel llu banerog?
(Caniad Solomon 6:10 BCNad)
Gwêl y cariad ei anwylyd yn debyg i’r wawr. Defnyddia’r rheini sydd am alegoreiddio Cân y Caniadau y gymhariaeth hon i ddweud mai Eglwys Crist sydd yn brydferth fel y lloer, yn ddisglair fel yr haul, yn urddasol fel llu banerog.
Darlun delfrydol iawn ydyw o’i anwylyd (o Eglwys Crist), ond oni syllwn ar y delfryd o dro i dro, bydd ein bywyd yn llwm ac fe dynnir allan ohono bob awydd ac ymdrech i greu gwell a thecach byd. Syllu ar y delfrydol a ysgogodd bob arloeswr.
Mae gormodiaith yn gwbl naturiol i serch. Peidiwn â difrïo’r ormodiaeth. Iaith serch yw iaith yr Eglwys yn aml wrth gyflwyno Crist: Ieuan o Lŷn a’i disgrifiodd Mae ei ruddiau fel y wawr, a William Williams, Pantycelyn: Mae’r wawr yn cerdded ar ei ôl.
Arwydd o’r dydd yw’r wawr, pan âi nos heibio. Meddai Paul am bob Cristion: Chwychwi oll, plant y goleuni ydych, a phlant y dydd (1 Thesaloniaid 5:5 WM).
Benthycwn brofiad William Williams (1717-91) yn sbardun i fyfyrdod pellach a gweddi:
Mae’r hyfryd wawr sy’n codi draw
yn dweud bod bore braf gerllaw ... Amen