Mae nifer fawr ohonom bellach yn nodi, os nad ceisio cadw, 40 Diwrnod y Grawys. Ofer hynny, heb ein bod yn cofio nad Sul, ond tymor yw'r Pasg. Gwahoddir ni, ar ddydd Mercher y Lludw, i gadw 40 diwrnod y Grawys i ymbaratoi i'r Pasg. Gwahoddir ni ar Sul y Pasg i gadw 50 diwrnod i ddathlu'r Pasg. Trwy gydol y 50 diwrnod rhwng Sul y Pasg a'r Pentecost cynigir gennym awgrym o ddarlleniad Beiblaidd a myfyrdod syml yn seiliedig ar fywyd a phrofiad un o’r Seintiau Cymreig. 50:50 - 50 Sant i 50 diwrnod! Ymunwch â ni i ddathlu Tymor y Pasg eleni. Ein man cychwyn bore Sul fydd, Beuno, Asaff a Melangell trwy gyfrwng Munud i Feddwl gan ein Gweinidog. Bydd homili Owain yn ymdrin â’r Saint: Aelhaearn, Eluned, Cybi a Brynach.
Yn ôl ein harfer, bydd yr Oedfa Foreol am 10:30. Cynhelir yr Ysgol Sul. Parhawn i barchu gorchymyn Iesu, Portha fy ŵyn, a’n llafur yn ddiarbed i hyfforddi ein plant a phobl ifanc.
Croeso cynnes i gyfeillion o Eglwysi Gofalaeth Bro Llanuwchllyn a'r Cylch sydd yn ymuno ȃ ni yn ein Hoedfa Foreol.
Liw nos, yn yr Oedfa Hwyrol (18:00), ein braint fel eglwys fydd cael gwrando cenadwri a derbyn arweiniad gan y Parchedig Noel Davies (Abertawe). Gwyddom y cawn ganddo bregethu meddylgar a phregethau buddiol a bendithlawn. Gweddïwn am wenau Duw ar Oedfaon y Sul.
Bydd y gymdeithas yn parhau yn Koinônia: swper blasus a sgwrs ddifyr mewn bwyty Eidalaidd cyfagos.
PIMS nos Lun (24/4; 19:00-20:30 yn y Festri): Ffyddlondeb (Galatiaid 5:22).
Bethania nos Fawrth (25/4; 19:30-21:00). Y thema yw ‘Cyfeillion Paul’. Testun ein y sylw yn cyfarfod hwn bydd Titus).
Pnawn Mercher (26/4; 14:00-16:45) Cwrdd Chwarter Cyfundeb Dwyrain Morgannwg. Cwrdd Chwarter Dwyrain Morgannwg yn y Tabernacl, Porthcawl: ymweliad Llywydd yr Undeb, Mr Glyn Williams a thrafodaeth ar Arolwg y Cyfundeb. Gweddïwn am wenau Duw ar waith a chenhadaeth y Cyfundeb.
Dydd Iau (27/4; 10:30-13:30): Taith Gerdded Sain Ffagan (manylion yng nghyhoeddiadau'r Sul).
Bore Gwener (28/4; 11:00): ‘Llynyddwch’. Paned wrth ymyl llyn llonydd y Rhath. Yn Terra Nova cawn gyfle i drafod, fesul pennod, llyfr Rowan Williams: Choose Life (Bloomsbury, 2013). Echel ein trafodaeth fore Gwener fydd But is it true? (t.201-209).