Myfyrwyr yn teithio’r byd, llygaid lled eu pen ar agor. Llyncu hanes a diwylliant fel dŵr ar ddiwrnod sych. I Gymraes ar daith fel fi, does dim pen draw i’r pethau anhygoel sydd i’w gweld. Ar adegau mae gormod hyd yn oed: cymaint fel bod lliwiau yn rhy llachar a cherddoriaeth yn rhy swnllyd; anodd weithiau yw cael eiliad i feddwl heb sôn am funud.
Ar daith ddiweddar i Ferlin, fe’m gorfodwyd i feddwl - rhoi’r ffôn i lawr, anghofio lluniau a selfies a chwilio momentos - a gweld; na, mwy na gweld, deall. Ar ganol strydoedd mawr, gweld wal fel craith drwy ganol dinas bert; graffiti a thyllau dryll, weiren bigog a phaent lliwgar. Mae’r wal yn ein hatgoffa o’r hanes; hanes na ellir ei anwybyddu byth ym Merlin. Yn hytrach na thrin y wal a’r holl atgofion chwerw fel tudalen i’w rhwygo allan o’r llyfrau hanes, cedwir, a gwelir yr hanes tywyll yma’n rhan o sgerbwd y ddinas a’r wlad.
Rydym ni fel gwlad heb ddod i ddeall ein gorffennol tywyll ni ein hunain, ond serch hynny’n ddigon parod i bwyntio bys at yr Almaen. Rydym ni heb ddod i ddeall yr erchyllterau gwnaed ar ein rhan yn India a Kenya, i enwi dim ond dau. O hyd rydym yn cadw hen drysorau Indiaidd yn ein hamgueddfeydd fel gwobrau rhyfel, a gwrthod cydnabod trais yn erbyn gwrthryfelwyr Mau Mau. Testament pellach yw'r cofgolofnau i hen Colonialists yn Rhydychen i ogoneddu’r ymwelwa - exploitation - o’u tir a’u hunaniaeth.
Nid felly ym Merlin. Mae popeth yn adlewyrchu’r Almaen yn cofio - gwlad sydd o hyd yn plygu ei phen mewn siom. Gwelir mannau coffa ar hyd a lled Berlin; cofgolofnau mawr goncrit yn sefyll yn dal, nes i ni deimlo’n fach a gwan yn eu mysg; dŵr llonydd, tawel i’n hatgoffa am y sipsiwn a’r Roma cafodd eu lladd yn yr Holocost; amgueddfa yn ein hatgoffa sut all casineb dyfu a thyfu nes bod hi’n annod gweld y gwir o’r gau, gan dynnu sylw arbennig i’r argyfwng ffoaduriaid. Gwelwch chi’r paralel hanesyddol yma? Ond mae’n rhaid dweud nad yr un o’r rhain oedd yn sioc i mi, wedi’r cyfan, ar ôl bod yn New York a Llundain nid oeddwn yn teimlo bod dim mwy gallai amgueddfa ddangos i mi.
Maes parcio, gwair sych, gravel. Dyma yw disgrifiad un o’r mannau mwyaf trawiadol es i iddi. Man cyffredin gyda bywyd yn byrlymu a symud uwchben lle yr anghofiwyd amdano: y Reich Bunker. Yma, buodd Hitler a’i brif swyddogion Natsiaidd yn cuddio erbyn diwedd y rhyfel; yma hefyd y priododd Hitler yn ei ddyddiau olaf. Nawr does dim cofgolofn, dim anogaeth i sefyll a chondemnio ei ddaliadau a’i ddulliau a dechrau o’r newydd. Mae’n debyg nawr bod parc chwarae yno: lle bu rhywrai’n cynllunio lladd a difa, mae plant nawr yn chwarae.
Mae’n rhaid dod i dermau â’r Holocost, yn ei gyfanrwydd neu mae perygl eto o drais. Pan aethom ni i weld y gwersyll crynhoad bwriodd llawn effaith yr erchylltra mi. Mae’n rhaid synnu fod gobaith wedi goroesi er waethaf popeth, a ffydd wedi dal trwy’r holl amseroedd caled. Doedd dim seibiant rhag y trais i’r miliynau o bobl oedd wedi eu carcharu gan y Natsïaid - unig fwriad y system oedd difa pobl. Pwy allasai weld bai arnynt am anobeithio, ond dyfalbarhad ffydd a gwrthod caniatáu i obaith i farw’n dawel, dyma welais i yn y gwelyau pren ac olion casineb.
I ni, bob dydd, yn a thrwy'r pethau bychain, rhaid gweld ffydd, rhaid cofio Duw mewn amseroedd tawel, prysur, hapus a thrist a phob peth arall daw gyda bywyd, pethau welwch ar eich teithiau neu o obennydd y soffa. Rhaid cofio i gofio a chadw ffydd, cymerwch felly Munud i Feddwl, a meddyliwch am Ferlin.
Heledd Wilshaw