Ym mis Gorffennaf, treulies 4 wythnos gyda grŵp o’r brifysgol yn Ne Korea. Roedden ni’n aros mewn prifysgol leol yno, yn ninas Jinju yn cynnal cwrs iaith Saesneg ar gyfer ei disgyblion. Er mai’r nod oedd eu paratoi ar gyfer arholiad, roedd rhyddid i ni fel athrawon drefnu ein gwersi ein hunain gan ganolbwyntio ar sgiliau siarad, felly roedd cyfle i fod yn greadigol tu hwnt ac fe fwynheais i’r profiad yn fawr. Ar ben hyn, fel arwydd o ddiolch i ni, roedd y brifysgol yn Jinju yn ddigon caredig i drefnu tripiau penwythnos i ni gyd er mwyn rhoi cyfle i ni weld ychydig o’r wlad. Roedd un o’r tripiau yma i deml Fwdïaidd gerllaw lle gymeron ni ran mewn Templestay wedi ei drefnu i roi syniad i bobl sut beth yw bywyd i fynachod Bwdïaidd, ac mi roedd yn brofiad a hanner!
Wrth gyrraedd roedd rhaid i bawb roi eu ffonau symudol i gadw mewn bocs, i’w cael yn ôl ar ddiwedd y penwythnos (tasg llawer yn anoddach nac y mae’n swnio i bobl ifanc heddiw!), ac yna newid i wisg draddodiadol. Wedyn cawsom ni ein dangos o gwmpas y deml a oedd wedi ei guddio o fewn llecyn godidog tu hwnt o fynyddoedd gwyrdd. Cawsom ein haddysgu am etiquette y deml, a oedd yn gofyn i ni geisio cynnal awyrgylch tawel ym mhobman, yn enwedig ar amseroedd bwyta.
Cyn pen dim roedden ni gyd wedi ymlacio yn gyfan gwbl! Roedd y lle yn boced o baradwys brin fel petai wedi’i ddatod yn gyfan gwbl o brysurdeb ein bywydau bob dydd.
Wrth gwrs fe ddaeth yr amser i ni gael ein haddysgu am y traddodiad Bwdïaidd o fyfyrdod, ac roedd rhaid dihuno am 04:30 fore dydd Sul er mwyn cael gwneud! Fe’n arweiniwyd i bendroni dros gwestiynau fel "Pwy ydw i?" a "Pam ydw i yma?" mewn sawl ffordd wahanol gan gynnwys wrth gerdded yn ddistaw i fan sanctaidd ar ben mynydd, a thrwy gwblhau 108 prostration sef ymgrymiad traddodiadol gyda phob 108 ohonynt yn cynrychioli mater gwahanol i bendroni amdani.
Heb os fodd bynnag, fy hoff ran i o’r penwythnos oedd yr adegau tawel rhwng bob peth lle’r oedd wir gyfle i adael i’r meddwl grwydro mewn hedd. Roedd hi’n anodd mewn awyrgylch mor ddistaw a dwys i beidio chwilio am atebion i’r cwestiynau mawr, a chefais fy hun yn meddwl am fy nyfodol, fy hunaniaeth ac am fy ffydd. Sylwais mai dyma oedd y tro cyntaf mewn amser maith i fi wir gymryd yr amser i feddwl. Nid meddwl wrth gyflawni tasg, neu wrth aros i rywbeth ddigwydd ond wrth gymryd yr amser allan o fy niwrnod i feddwl er mwyn meddwl.
Er, wrth gwrs ei fod yn amhosib ffeindio ateb i’r mwyafrif o’r cwestiynau oedd yn fy mhigo, roeddwn i’n teimlo fil gwaith mwy heddychlon fy meddwl wedi treulio amser go iawn yn eu pendroni.
Fel un sy’n beio fy hun am or-feddwl am y rhan fwyaf o bethau doeddwn i ddim yn disgwyl buddio cymaint o’r profiad ond fe wnaeth y penwythnos i fi wir ddeall budd cymryd amser bob hyn a hyn i feddwl, heb arweiniad, heb darged ond yn bwrpasol serch hynny.
Sioned Press