Mae’r pafiliwn newydd yn ei le. Mae’r carafannau a’r pebyll yn heidio draw. Dros y wlad, mae corau’n cael un ymarfer olaf, y bandiau pres yn rhoi sglein ar eu hofferynnau, a’r clocs yn cael eu hail-wadnu. Yn rhywle, mae 'na brif lenor a dau brifardd llawn cyffro sy’n gorfod cadw’u cyfrinach am ychydig bach eto. Mae’r cyflwynwyr a’r arweinwyr yn clirio’u llwnc, ac mae’r Archdderwydd newydd yn rhoi sglein ar ei ddwyfronneg. Ydi, mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi dechrau draw yn y Fenni.
Aelodau Llandaf a Phontcanna fu’n prysur baratoi'r Oedfa Foreol heddiw. ‘Eisteddfod ein Ffydd’ oedd thema’r Oedfa. Arweiniwyd ni i ystyried y tebygrwydd rhwng bywyd a thystiolaeth yr Eglwys â’r Eisteddfod.
Mae’n debyg fod ystyr wreiddiol y gair ‘Eisteddfod’ yn golygu man cyfarfod a chynnull, ac yn wir efallai mai dyna’r prif atyniad i nifer fawr o eisteddfodwyr. Mae’r Eisteddfod yn debyg i’r Eglwys yn hynny o beth! Cyson gynhaliol yw’r fendith a gawn wrth ddod yng nghyd i gyd-addoli a chyd-wasanaethu; cydlawenhau a chydalaru, heb anghofio ... cydweithio.
Dros yr wythnos nesaf, fe fydd y maes yn ferw o weithgarwch a lliw a sesiynau a chystadlaethau a hwyl. Wrth ymweld, mae hi’n anodd sylweddoli faint yn union o waith sy’n cael ei gyflawni gan nifer helaeth o unigolion i wneud i’r cyfan ddigwydd. Ond mi gewch fod pawb, yn gystadleuwyr, yn feirdd, stondinwyr, gweithwyr yr Eisteddfod, newyddiadurwyr a chyflwynwyr, a nifer o rai eraill, yn hynod ddiolchgar o gael bod yno, wrth eu boddau: pawb yn fwy na hapus i chwarae eu rhan, ac yn falch o’u dyletswydd.
Mae nifer o weithwyr caled yn ein plith ninnau hefyd, yn barod i roi’n helaeth o’u hamser a’u hymdrechion, a hynny’n gwbl ddirwgnach. Yn sicr, maent yn cymryd llawenydd a balchder wrth chwarae eu rhan - ond tybed a ydym weithiau’n rhy barod i adael i’r rhai parod hynny wneud popeth? Nid un person, neu ddau, neu ddeg, yw’r Eglwys, ond y cyfan ohonom wedi’n taflu efo’n gilydd, yn ddathliad o Grist.
Cân, dawns a chelf: mae’r tri’n gwbl ganolog i’r Eisteddfod, a’r un modd mae cerddoriaeth, dawns a chelfyddyd ymhlith y cyfryngau, sydd nawr fel erioed yn galluogi pobl ffydd i fynegi a dathlu ei ffydd yn Nuw.
Diogelwch: Tra ydym o fewn ffiniau maes yr Eisteddfod, gallwn deimlo rhyddid a rhwydd hynt i fod yn Gymraeg, trwy’r Gymraeg, heb deimlo cywilydd nac euogrwydd na bod ofn bygythiad, cyhuddiad neu ymosodiad. Oes modd mynd yn rhy fewnblyg fel Cymry Cymraeg? Yr un perygl sydd i’n crefydd a’n ffydd. Mae arnom angen diogelwch, sicrwydd a chwmni cymuned a theulu’r Eglwys. Mae arnom angen adeilad y capel, a’r cyfle i droi i mewn at ein gilydd a chael cysur a nerth. Ond mae angen hefyd inni fynd allan, peidio â chau ein hunain na’n ffydd i ffwrdd oddi wrth weddill gymdeithas a’n cymdogion.
Beth wedyn, ar ôl i’r côr olaf ganu ac ar ôl i’r garafán olaf adael y cae? Yn flynyddol yn dilyn yr Eisteddfod Genedlaethol, mae perygl digalonni, a hiraethu am wynfyd o wythnos yw’n hanes yn rhy aml.
Mae’n rhaid cofio’r hyn a gafwyd, a dwyn nerth ac ysbrydoliaeth oddi wrtho. Ar ôl ein hoedfaon a’n cymundeb ar y Sul hefyd, gallwn ddefnyddio’r fendith a gawsom i’n cryfhau at yr wythnos sydd i ddod.
Beth am y cystadlu!? Yn hyn o beth mae’r Eisteddfod a’r Eglwys, o bosib, ar eu mwyaf gwahanol. Yn Iesu, does dim colli i fod - dim ond ennill. Yn aml, fe glywir prifeirdd a phrif lenorion newydd yr Eisteddfod yn cael ei siarsio i fynd ‘o’u gwobr at eu gwaith’. O holl nodweddion, defodau, a bendithion yr Eisteddfod, onid dyna’r siars y dylem ei chofio yn anad yr un? Yn Eisteddfod ein ffydd, mae gennym ninnau eisoes ein gwobr. Awn ati i weithio.
Oedfa hwyliog, yn drwch o fendith a her. Diolch i Awen, Joye, Ann, Mari, Helen, Elisabeth, Jean, Eirlys, Hefin, a Robin. Mawr ddiolch i Menna a Llŷr am gael trefn ar y cyfan.
Aelodau Cyncoed a Phen-y-lan bu’n arwain yr Oedfa heno. Canllaw ein myfyrdod oedd emyn Eifion Wyn (Eliseus Williams, Porthmadog 1867–1926): Am wlad mor dawel ac mor dlws ein Tad moliannwn Di.
Byrdwn yr emyn hwn yw Ein Tad Moliannwn Di. Mae’r llinell hon i’w chael yn y pedwar pennill, a thrwy eu canu, cawsom gyfle heno i fynegi ein ffydd yn Nuw ein Tad sy’n deilwng o’n clod.
Am wlad mor dawel ac mor dlws,
Ein Tad, moliannwn di;
Mae trysor yn ei henw da
A’i hanes annwyl hi
‘Roedd gan yr emynydd lygad i weld prydferthwch byd natur, a chalon i werthfawrogi bendithion Duw yn ei greadigaeth. Tybed a oedd Cymru yn dlysach a thawelach gwlad yn nyddiau Eifion Wyn? Yn sicr, roedd afonydd a llynnoedd ein gwlad yn burach ganrif yn ôl gan nad oedd cymaint o ddiwydiannau a ffatrïoedd yn llychwino’r dyfroedd â gwastraff gwenwynllyd, ac yn llygru’r awyr â nwyon peryglus.
Fel Cristnogion, fe’n gelwir ni i warchod ein gwlad gyda’r ymwybyddiaeth mai eiddo Duw yw pob rhan ohoni, ac nad oes gan neb ohonom yr hawl i ddefnyddio cyfoeth y greadigaeth at ddibenion hunanol, ac ar draul ein cyd-ddynion.
Cyfeiria'r emynydd hefyd at ‘enw da’ Cymru, ‘a’i hanes annwyl hi’. Tybed a yw Eifion Wyn yn gwyngalchu gorffennol Cymru yn ormodol? Cyn ei gyfnod ef, ac wedi hynny, gormeswyd gwerin dlawd ein gwlad yn ddidrugaredd gan gyfoethogion a meistri tir, a defnyddiwyd bechgyn ifanc gan y llywodraeth i ymladd rhyfeloedd yr Ymerodraeth Brydeinig. Bu farw miloedd ar filoedd ohonynt yn y modd mwyaf dychrynllyd. Nid yw’r wedd hon i hanes Cymru yn destun cân a diolch, ond trwy drugaredd, nid dyna’r stori i gyd. Y mae ‘na wedd ddaionus i hanes Cymru, a heddiw fe gofiwn yn ddiolchgar am bawb a fu’n sefyll dros gyfiawnder cymdeithasol a rhyddid i fyw bywyd llawn a dedwydd. Fel Cristnogion, ‘rydym yn priodoli hyn i ddylanwad mawr yr Efengyl ar bobl ein gwlad. Dyma’r trysor sy’ wedi cadw enw da Cymru yn y gorffennol, a dyma’r trysor i’n cadw ninnau hefyd yn bobl yr Arglwydd i’r dyfodol.
Am dadau pur a mamau mwyn,
Ein Tad, moliannwn Di;
Ein braint yw byw i’w caru hwy
Sy’n byw i’n caru ni
Yn y pennill hwn, cawn gyfle i ddiolch am ein rhieni, ac i atgoffa’n gilydd o’n braint i garu ein hanwyliaid. Yn ddi-os, yn ein golwg fel Cristnogion, y teulu yw’r uned bwysicaf, a’r cartref yw’r man mwyaf cysegredig yn ein cymdeithas.
Am geraint ac athrawon hoff,
Ein Tad, moliannwn di;
Maent am ein dwyn i ffordd y nef,
A’r nef i’n bywyd ni
‘Am geraint...’ Nid yw’r gair hwn yn cael ei ddefnyddio gymaint heddiw ar dafod leferydd. Ei ystyr yw "perthnasau", a chan amla’ perthnasau yng nghyd-destun yr uned deuluol. Fel Cristnogion, fodd bynnag, rhown ystyr ehangach na’r arferol i’r gair,’perthynas’, a hynny trwy gynnwys pawb sy’n credu yn yr Arglwydd Iesu Grist.
Yn arwyddocaol iawn, yr enw a roddwyd yn gynnar iawn ar yr Eglwys oedd ‘Teulu’r Ffydd’. Perthynas ysbrydol yw’r ddolen gyswllt rhyngom â’n gilydd fel Cristnogion, a honno’n seiliedig ar ein perthynas â’r Arglwydd Iesu Grist. Yn wir, ef yw’r llinyn bywiol sydd yn ein clymu yn un.
Ni olyga hyn nad oes anawsterau a phroblemau yn codi o dro i dro oddi mewn i deulu’r Eglwys. Fel yr uned deuluol yn ein cartrefi, nid oes uned deuluol berffaith yn ein heglwysi lleol chwaith. Am hynny, dylem ymroi i oddef ein gilydd mewn ysbryd cariad, a chadw â rhwymyn tangnefedd, yr undod y mae’r ysbryd yn ei roi. Fe ddywedir yn Saesneg, ‘Lasting friendship needs constant repair’.Y mae hyn hefyd yn wir yn ein perthynas â’n gilydd fel Cristnogion. Nid perthynas i’w hesgeuluso ydyw, ond i’w thrwsio yn gyson â llinyn cariad Iesu Grist.
Yn y trydydd pennill, mae Eifion Wyn yn cyfeirio hefyd at athrawon hoff. Dywedwyd fwy nag unwaith mai ysgol yw bywyd, ac mai disgyblion fyddwn ar hyd ein hoes. Tra’n ddiolchgar am bob cymorth gan athrawon a’n dysgodd, gwyddom mai’r Athro mawr yn unig a all
... ein dwyn i ffordd y nef,
A’r nef i’n bywyd ni.
Yn yr Efengylau, dywed Iesu Grist wrthym, Myfi yw’r ffordd a’r gwirionedd a’r bywyd (Ioan 14:6BCN) ac mai trwyddo ef y cawn nerth yn ộl y dydd i wynebu anawsterau’r daith, ac i fyw bywyd llawn.
Am un sydd fwy a gwell na phawb,
Ein Tad, moliannwn Di;
Mae ganddo le’n ei Deyrnas fawr,
A gwaith i blant fel ni.
Mae’r emynydd yn gorffen gan ein hatgoffa o’n cyfrifoldeb i weithio dros deyrnas Dduw. Wrth godi muriau dinas Jerwsalem, dywedodd y proffwyd Nehemeia: Gwaith mawr yr wyf yn ei wneuthur ... (Nehemeia 6:3). Yn y Testament Newydd, pwysleisiodd yr Apostol Paul wrth ei gyd-Gristnogion eu bod yn gydweithwyr Duw, ac anogodd hwy trwy ddweud: Beth bynnag yr ydych yn ei wneud, gweithiwch â’ch holl galon, fel i’r Arglwydd, ac nid i ddynion (Colosiaid 3:23). Buddiol a da cael ein hatgoffa’n gyson o hyn, ac o’r herwydd cyfieithu ein teimladau diolchgar yn weithredoedd da, ac yn gyfrwng i ddangos Iesu ac i wasanaethu ein hoes.
Diolch i Mary, Rhun, Hywel a Dyrinos, ac i Margaret a Glyn am gydlynu trefniadau’r Oedfa hyfryd hon.
Ein braint heddiw, fel eglwys, oedd cael bod yn gyfrifol am baratoi te i’r digartref y Tabernacl, yr Âis.