Salm 23
Fel sylwodd Lewis Valentine (1893-1986), yn y salm hon cawn dri gwahanol ddarlun o Dduw, gan ddechrau yn adnodau 1 & 2 gyda Duw'r Bugail:
Yr Arglwydd yw fy Mugail;
ni fydd eisiau arnaf,
Efe a wna i mi orwedd mewn porfeydd gwelltog:
efe a'm tywys ger llaw y dyfroedd tawel.
Dyma ddelwedd hynod rymus; delwedd sydd fel burum ym mlawd y Beibl. Gwelir y ddelwedd ar waith yn Genesis (Gen.48:15), a hefyd yn Natguddiad Ioan (Dat.7:17). Dyma ddelwedd sy'n ymddangos dro ar ôl tro mewn Salm ar ôl Salm, ystyriwch e.e. 28:9; 79:13; 100:3. Sylwch ym mhob un o'r cyfeiriadau uchod ac eraill fel 80:1 a 95:7 bod y ddelwedd o Dduw'r bugail yn cael ei ddefnyddio tu mewn i gyd-destun ei berthynas â'r holl bobl, ond yn Salm 23, nid Yr Arglwydd yw ein Bugail... sydd gennym ond Yr Arglwydd yw fy Mugail... Mae'r nodyn yn llawer mwy personol.
Sylwch hefyd ar ddechrau'r salm, mae Dafydd yn cyfeirio ar Dduw fel efe, ond mae'n diweddu trwy ei alw'n ti. Rhyw dro, 'roedd 'na actor go enwog a gweinidog di-nod yn eistedd, ymhlith nifer eraill, wrth bryd bwyd. Ildiodd yr actor i bwysau ei gyfeillion a rhoi ambell adroddiad o waith Shakespeare ac ati, a chan ei bod hi'n Sul, i orffen adroddodd Salm 23. Canmolwyd yn fawr ei adroddiad. Gofynnodd y gwesteiwr i'r gweinidog i adrodd yr union un Salm. Wedi iddo orffen ni fu na chymeradwyaeth na chanmoliaeth - dim ond tawelwch. Gan dorri ar y tawelwch hwnnw, meddai'r actor gan siarad dros bawb, "Mae'n amlwg fy mod i nabod y Salm, ond eich bod chi'n nabod y Bugail."
Efe a ddychwel fy enaid: efe a'm harwain ar hyd llwybrau cyfiawnder er mwyn ei enw. Ie, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau, nid ofnaf niwed: canys yr wyt ti gyda mi; dy wialen a'th ffon a'm cysurant.
Yma newidir y ddelwedd: Duw'r Arweinydd diogel. Hon eto’n ddelwedd sydd yn ymddangos mwy nag unwaith yn Salmau e.e.: 25:9; 73:24. Unir y ddwy ddelwedd yn Salm 78:72. Heb os ac oni bai mae'r ddelwedd hon eto'n hynod rymus. Â chenhedlaeth gyfan yn amau os oes ystyr i siarad am gyfeiriad a phwrpas i fywyd, onid oes angen Arweinydd diogel arnom, gyda'i ffon a'i wialen yn torri ffordd Trwy ein byd didostur ni?
Ti a arlwyi ford ger fy mron yng ngŵydd fy ngwrthwynebwyr:
iraist fy mhen ag olew;
fy phiol sydd lawn. Daioni a thrugaredd yn ddiau a'm canlynant holl ddyddiau fy mywyd:
a phreswyliaf yn nhŷ yr Arglwydd yn dragywydd.
Yma cawn ddelwedd newydd eto: Duw'r Gwesteiwr. Cawn atseiniau o'r ddelwedd hon yn 25:20&21; 116:12&13 a 43:3. Ceir yng nghwmni'r Gwesteiwr diogelwch a chysur.
F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen.
(OLlE)