Rhwd. Pan ddaw y gair ‘Rhwd’ o flaen fy llygaid, neu i’m clyw, cyfyd ymdeimlad o chwithdod ynof – onid oes rywbeth yn chwithig am rywbeth yn rhydu? Ac yn rhyfedd iawn, rhyw chwithdod felly sydd gan y beirdd wrth sôn am unrhyw beth a rhwd arno. Mae ‘na eithriadau, er enghraifft:
Segurdod yw clod y cledd,
A rhwd yw ei anrhydedd.
Dylem ymfalchïo yn segurdod rhydlyd y cledd, meddai Emrys (1813-1873) wrthym, ond gyda pethau eraill, y defnydd a wnaed o rywbeth pan fo’n loyw a glân sydd yn cyffroi awen y beirdd o weld rhwd yn cydio ynddo. Dyma, er enghraifft, englyn am yr hen efail - rhyw atgof am hyfrydwch y prysurdeb gynt:
Y gêr tan rwd seguryd – a’r taw hir
Lle bu taro diwyd;
A wêl fwth ac efail fud
A wêl fedd hen gelfyddyd.
Tybed a ellid dweud bod ein syniad o Dduw, ein deall ohono, ein perthynas ag Ef weithiau’n rhydu a hynny oherwydd diffyg defnydd, symud a chynydd? Gêr ein ffydd, gobaith a chariad tan rwd seguryd? I aralleirio Emrys, nid yw segurdod, niwlogrwydd meddwl a diffyg ffresni'n glod i’n ffydd; nid yw rhwd yn anrhydedd i Dduw. Sancteiddier dy enw meddai Iesu yn y Weddi Fawr. Sancteiddier dy enw: rhaid ar dro i bawb ohonom grafu’r rhwd i ffwrdd o’n perthynas â Duw ac â'i bobl Ef.
Yn weddi heddiw, benthycwn dyhead Ann Griffiths (1776-1805)
O! am fywyd o sancteiddio
Sanctaidd enw pur fy Nuw,
Ac ymostwng i’w ewyllys
A’i lywodraeth tra fwy’ byw...Amen
(OLlE)