TAW?
Na, nid Treth ar Werth, ond Taw…Tawelwch; taw piau hi. Mae lle, a gwerth i’r cyffro a’r gorfoledd mawr, ond mae’n bwysig hefyd ymdawelu a gwrando’r llef ddistaw fain (1 Brenhinoedd 19: 12b).
Un agwedd ar weddi yw llefaru; un agwedd ar addoli yw cyhoeddi; un agwedd ar droad blwyddyn yw’r dathliadau mawr. Wrth weddïo, wrth addoli, wrth ddathlu rhaid hefyd ymdawelu, a gwrando. Ni waedda Duw; ni ymdeimlir â’i fendith onid gan y sawl a glustfeinio.
Clustfeiniwn, gan ddisgwyl clywed rhywbeth - gweledigaeth...oherwydd fe ddaw eto weledigaeth yn ei hamser - daw ar frys i’w chyflawni, a heb ball. Yn wir nid oeda; disgwyl amdani, oherwydd yn sicr fe ddaw, a heb fethu (Habacuc 2:3).
 ninnau’n sefyll ar drothwy blwyddyn newydd, mae Duw yn gofyn i ni, yn union fel y gofynnodd i Elias: Beth a wnei di yma? (1 Brenhinoedd 19:13b). Wrth ateb, fel Eseia: Dyma fi, anfon fi (Eseia 6:6) daw’r ffordd ymlaen i’r golwg; amlygir llwybr, cynigir cyfle, darperir nerth.
Diolch i Ti, O! Dduw am holl fendithion y flwyddyn hon. Tywys fi’n awr i’r flwyddyn newydd i’th wasanaethu Di, a’th bobl, yn ôl dy ewyllys. Amen.
(OLlE)