Dyma restr achau Iesu Grist, Mab Dafydd, mab Abraham... (Mathew 1:1) Mae’n anodd gennym ddeall pam mae Mathew yn dewis dechrau ei Efengyl gyda beth sydd i ni, yn ddim ond rhestr faith ac eithriadol gymhleth o enwau.
Abraham - Isaac - Jacob - Jwda - Peres a Sera - Hesron - Ram - Amminadab - Nahson - Salmon - Boas - Obed - Jesse - Dafydd - Solomon - Rehoboam - Abeia - Asa - Jehosoffat - Joram - Usseia - Jotham - Ahas - Heseceia - Manasse - Amon - Joseia - Jechoneia - Salathiel - Sorobabel - Abiwd - Eliacim - Asor - Sadoc - Achim - Eliwd - Eleasar - Mathan - Jacob - Joseff - Iesu. (Mathew 1:1-17).
Adran ddiflas iawn i ddechrau blwyddyn! Ond, mae pob enw yn ddolen mewn cadwyn sy’n arwain at Mair... hi a roddodd enedigaeth i Iesu, a elwid y Meseia (Mathew 1:17). ‘Roedd pob un o’r bobl hyn yn gyfrwng i ewyllys Duw. Nid dynion da mohonynt i gyd, ond mae pob un yn llinach Iesu, am fod Duw ar waith trwy bobl, a phobl ar waith yn Nuw.
Gweddïwn ar ddechrau blwyddyn am i Dduw ein cynnwys yn llinach Iesu. Un amod sydd: caniatáu i Dduw weithio ynom, a...thrwom. Gwaith Duw ydym. Gwaith Duw yr ydym yn ei gyflawni. Cariad Duw yw ein cymhelliad. Ewyllys Duw yw ein safon. Gogoniant Duw yw ein nod.
Wele, eto ddechrau arall - O! Dduw Dad, cymer di hi, a ninnau ynddi - yn gwbl i ti dy hun, er gogoniant dy Fab Iesu Grist. Amen.
(OLlE)