GRYMIOL FFYDD ... DIWYD GARIAT ... YMAROS EICH GOBAITH

'Munud i Feddwl' ein Gweinidog

Gan goffau eich grymiol ffydd, a’ch diwyd gariat ac ymaros eich gobaith yn ein Arglwydd Iesu Crist, rac bron Duw, sef ein Tat. (1 Thesaloniaid 1:3 Cyfieithiad William Salesbury)

‘Rydym yn diolch eleni am i Gymru, 450 mlynedd yn ôl, gael y Testament Newydd yn ei hiaith ei hun. Er nad ydym ni heddiw’n defnyddio’r cyfieithiad hwnnw, mawr yw’n dyled i William Salesbury (c. 1520 – c. 1584) a Richard Davies (c. 1505 – 1581) am ei roi i’r genedl. Ar gyfieithiad 1567 y seiliodd yr Esgob William Morgan ei gyfieithiad ef yn 1588.

Rhaid cael y Beibl yn ein hiaith ein hunain. Ni all ddweud dim wrthym oni fedrwn ddeall ei eiriau. Ond un peth yw deall y geiriau. Peth arall yw deall y neges, a chyfieuir y neges yn berffaith yn yr adnod uchod. Gellid, yn lled ddiogel awgrymu mae’r llythyr hwn gan Paul i’r eglwys yn Thesalonica yw’r llythyr cynharaf (ac eithrio llythyr Iago o bosib). Pe bawn yn gosod y Testament Newydd yn nhrefn amser, buasai’n edrych rhywbeth yn debyg i hyn: Iago - c. 51 O.C. 1 Thesaloniaid - 51-52. 2 Thesaloniaid - 53-54. Galatiaid - 55. 1 Corinthiaid - 57. 2 Corinthiaid - 57. Rhufeiniad - 57-58. Philipiaid - 62-63. Colosiaid - 62-63. Philemon - 62-63. Effesiaid - 62-63. Luc - 63. Actau - 64. 1 Timotheus - 65. Titus - 65. 2 Timotheus - 66. Marc - 66. Mathew - 67. Hebreaid- 67. 1 Pedr - 67-68. 2 Pedr - 68. Jwdas - 68. Datguddiad Ioan - 68. Ioan - 85. Epistolau Ioan - 90-95.

Pymtheg mlynedd cyn ysgrifennu’r Efengyl gyntaf, ‘roedd Paul wedi dechrau ysgrifennu ei lythyron. Mae’r llythyron cynnar hyn felly, yn mynd â ni’n nes at Iesu na hyd yn oed yr efengylau. Rhoddant ddarlun inni o’r ffordd ‘roedd yr Eglwys, ryw chwarter canrif ar ôl marw Iesu o Nasareth, yn meddwl am Grist, yn credu ynddo, ac yn ceisio’i wasanaethu. Gwelwn yn yr adnod hon - o beth allasai fod yn bennod agoriadol y Testament Newydd - mor fawr oedd Crist yng ngolwg y Cristnogion hyn. Cawn ganddynt rysáit byw’r Atgyfodiad a’r ôl Sul y Pasg: grymiol ffydd, diwyd gariat ac ymaros ein gobaith, neu os oes yn well gennych: y cwbl dych chi'n ei wneud am eich bod chi'n credu ... gwaith caled sy'n deillio o'ch cariad ... a’r gallu i ddal ati am fod eich gobaith yn sicr yn yr Arglwydd Iesu Grist (1 Thesaloniaid 1:3 beibl.net)

Bellach trown i wynebu’r Pasg Bach - Low Sunday. Mae byw'r Pasg yn hawdd ar Sul y Pasg! Bydd hi’n anos o Low Sunday ymlaen. Rhaid cydio’n dynn yn y wyrth! Sut mae gwneud hynny? Gweithgarwch ffydd, llafur cariad a dal ati i ddal ati mewn gobaith. Hyn oll gan wybod mae gwaelod a gwraidd ein gobaith yw ein Harglwydd byw a bendigedig.

(OLlE)