Llawenhewch yn yr ARGLWYDD, chwi rai cyfiawn ... Salm 33:1
Galwad sydd ar ddechrau Salm 33 i’r rhai cyfiawn i foli’r ARGLWYDD gan ddefnyddio’r offerynnau cerdd at y gwaith. Uchaf ogoniant celfyddyd o bob math yw gogoneddu’r ARGLWYDD.
Y mae’n caru cyfiawnder a barn; y mae’r ddaear yn llawn o ffyddlondeb yr ARGLWYDD. Trwy air yr ARGLWYDD y gwnaed nefoedd a’r holl lu trwy anadl ei enau. Casglodd y môr fel dŵr mewn potel, a rhoi’r dyfnderoedd mewn ystordai (Salm 33:5-7 BCNad).
Dywed y Salmydd fod Duw yn haeddu pob moliant fel Creawdwr nef a daear, ond yn arbennig fel Creawdwr sy’n ffyddlon i’w air. Rhodd Duw yw’r cread: ... y mae’r ddaear yn llawn o ffyddlondeb yr ARGLWYDD. Y mae’r cread a rhagluniaeth yn tarddu o ras rhyfeddol Duw. Yr un yw ei drugaredd a’i gyfiawnder Ef. Cyfiawnder trugarog yw ei gyfiawnder Ef.
Geilw’r Salmydd am gân newydd i Dduw. Yr un yw thema’r gân, ond newydd yw’r nodau. Daw bendithion Duw yn newydd o ddydd i ddydd, a dylai ein cân o fawl fod yn newydd bob dydd.