Mae Undod - hynny yw bod fel un - yn parchu’r pethau sy’n gwahaniaethu’r amrywiol draddodiadau Cristnogol oddi wrth ei gilydd, tra bod Undeb - wedi uno, wedi ymffurfio’n un - yn ceisio dileu’r gwahaniaethu’r amrywiol rheini, a chreu o’r amrywiaeth, unffurfiaeth.
Undeb Cristnogol...
Mae Undod Cristnogol yn debyg i farddoniaeth, rhyddiaith yw Undeb Cristnogol. Peth ysbrydol yw Undod, peth crefyddol, strwythurol, cyfundrefnol yw Undeb. Gellid cael Undod heb Undeb, ac nid yw Undeb yn warant o Undod. Meddyliwch am y peth yn nhermau’r gwahaniaeth rhwng Cariad - Undod; a Phriodas - Undeb. Mae perthynas rhwng y naill a’r llall wrth gwrs, ond nid yr un peth mohonynt. Emosiwn yw Cariad, Sefydliad yw Priodas.
Neu...meddyliwch am weithio englyn. Mater o amynedd, ac ymarfer yw gweithio englyn. Gosod geiriau mewn rhyw drefn arbennig yw gweithio englyn, dim byd mwy na hynny; dyma Undeb - gosod pethau ein ffydd mewn rhyw drefn arbennig. Ond sut mae trawsnewid y geiriau oer yn rhywbeth byw, hardd; yn farddoniaeth? Yr ‘Awen’ sydd eisiau! Dyma Undod. Gwaith cymharol hawdd yw creu a chynnal Undeb Cristnogol. Gellid creu Undeb Cristnogol heb fod rhaid gwahodd Duw i’r pwyllgor. Peth cwbl wahanol yw Undod Cristnogol. Gwaith Duw yw Undod Cristnogol, a ninnau’n cael y fraint aruchel o fod â rhan a chyfran yn y fenter anferthol honno. Boed i’r wythnos hon fod yn gyfle I ni ymroi i gadw, â rhwymyn tangnefedd yr undod y mae’r Ysbryd yn ei roi (Effesiaid 4: 3).
(OLlE)