Robin goch ar ben y rhiniog
yn gofyn tamaid heb 'run geiniog,
ac yn dywedyd yn ysmala
O! mae'n oer, fe ddaw eira.
(Hen Bennill)
I'm clyw death murmur dyfroedd
dros gerrig llyfnion gwyn,
a gwelwn foncyff deiliog
yn plygu dros y llyn;
a bachgen bochgoch, troednoeth,
yn sefyll ger y lli
gan syllu a rhyfeddu
at wyrth dy degwch di.
Pioden y Dŵr neu 'Glas y Dorlan' (I. D. Hooson)
Y dryw bach, crëwyd ei ran - i'w osod
yn isel i hedfan;
o waith gwych ceir nyth y gwan
o'r golwg dan ryw geulan.
(Cerddi Cerngoch)
Heno yn y Gymdeithas: Stori Garu. Hanes Daniel Jenkins Jones (RSPB) yn gwylio a gwarchod ein hadar mân. Diolch iddo am noson ddifyr, ac ymhlyg yn y difyrrwch ambell her i warchod rhyfeddod byd natur.