Bocs…
Bocs oedd gan y Gweinidog i ddangos i’r plant heddiw; bocs ag ynddo … rhywbeth byw! ‘Roedd angen gofal ar y peth byw hwn - hen ydyw: 28 mlwydd oed! Cofier, mae’r pethau hyn yn byw’n hen iawn iawn. ‘Roedd y bychain yn awchu i gael gweld y peth byw hwn! Mae sawl un o rain adref gyda’r Gweinidog meddai. Mae rhai yn goch, neu wyn; gwyrdd, brown neu ddu. ’Roedd y plant ar binnau eisiau cael gweld beth oedd yn y bocs, ond ‘roedd gan y Gweinidog rhagor eto i ddweud! ‘Roedd yn gwario tipyn o amser gyda’r peth byw hwn. ‘Roedd yn gymorth mawr mewn bywyd. Ychwanegodd fod llawer iawn o waith ynghlwm wrth y beth byw hwn yn y bocs. O’r diwedd, o’r hir ddiwedd, daeth cyfle i’r bychain, a oedd bellach wedi ymgasglu o gwmpas y Gweinidog a’r bocs ar fwrdd y Sedd Fawr. Ond, na... rhaid oedd ychwanegu un peth: ‘roedd y peth byw yn y bocs yn gallu bod yn beryglus. ‘Roedd ambell un heb fod mor siŵr erbyn hyn os oeddent am gael gweld beth oedd ym mocs y Gweinidog! Cystal cydnabod bod ambell un o’r rhieni hefyd braidd yn ofidus bellach! Agorwyd y bocs. Gwellt a phapur, a’r Gweinidog yn twrio, chwilio a dod o hyd i’r peth byw yng nghudd yn y bocs! Ei godi’n ofalus a’i ddangos i’r plant a phlantos: Beibl! Beibl!? Mae’r Beibl yn fyw mynnai’r Gweinidog. Mae’r Beibl yn fyw, gan fod pob llyfr sydd ynddo yn sôn am Dduw byw. Awgrymodd y Gweinidog fod y Beibl mor berthnasol nawr ag ydoedd pan oedd Owain Llyr yr un oed â Jac, sydd yn 5 oed! A phan fydd Daisy (9 oed) yr un oedran a’r Gweinidog (47 er gwybodaeth!) bydd y Beibl eto, mor berthnasol ag erioed. Mae’r Beibl yn fyw, ac yn dysgu ni sut i fyw.
Y peth byw! Beibl!
Bu Daisy â'i llaw i fyny'n gwrtais am ychydig. 'Roedd ganddi gwestiwn: 'Pam 'roedd Owain wedi dweud fod y Beibl yn beryglus?' Chwip o gwestiwn da! Esboniodd y Gweinidog fod y Beibl yn beryglus oherwydd bod y llyfr hwn yn herio ein ffordd o fyw; ein ffordd o ymwneud â'n gilydd fel pobl, ac â Duw.
Awena a Bethan oedd yn arwain defosiwn yr ifanc heddiw, ac â ninnau fel eglwys yn profi colledion mawr y cyfnod hwn, buddiol oedd clywed darlleniad llawn cysur a chymorth o Ddatguddiad Ioan, yn gorffen: Bydd yn sychu pob deigryn o’u llygaid nhw. Fydd dim marwolaeth a hyn ymlaen, dim galaru, dim wylo, dim poen. Mae pethau fel roedden nhw wedi mynd (Datguddiad 21:4 Beibl.net). Benthycwyd geiriau John Roderick Rees (CFf.:87) gan Bethan yn weddi; dyma ychydig gymalau o’r ail bennill:
...a hithau'n ddyfnder gaeaf
disgwyliwn wanwyn Crist
a chlywed llais y durtur
uwch pob wylofain trist.
Aeth y plant at ei gwersi. ‘Roedd y gwersi rheini’n barhad o neges y Gweinidog heddiw. Fel rhan o’r amrywiol weithgareddau, gosodwyd trwch o wahanol fathau o lyfrau ar lawr y festri - llyfrau stori, llyfrau hapus-liwgar, llyfrau llwyd-diflas; barddoniaeth; nofelau; llyfrau coginio a llyfrau teithio. Trafodwyd gyda’r plant pa lyfrau y maen nhw’n eu hoffi orau, ac o ble maen nhw’n cael llyfrau. Siop? Ie, a llyfrgell wrth gwrs. Esboniwyd i’r plant nad llyfr mo’r Beibl ond llyfrgell - llond silff o lyfrau o fewn un clawr! Y cwbl yn un gyfrol, yn hanes a storïau, barddoniaeth, chwedlau, llythyrau, proffwydoliaethau a doethineb. Aethpwyd ati i wneud brechdan jam! Rhoddwyd i’r bychain, restr o gyfarwyddiadau. Canlyniad dilyn y cyfarwyddiadau buasai brechdan jam, hyfryd. Hyn oll i ddangos fod y Beibl y cynnig cyfarwyddyd i’n byw a’n bod; cyfarwyddiadau sydd, o’u dilyn, yn gymorth i agosáu at Dduw ac at ein gilydd fel pobl. Yn Ysgol Sul y bobl ifanc, trafodwyd Gweddi’r Arglwydd, gan osod y Weddi Fawr yng nghyfieithiad William Morgan ochr yn ochr â Beibl.net. Buddiol a da bu’r drafodaeth: Er mor gyfarwydd Deled dy deyrnas (Mathew 6:10a WM) ‘roedd y dosbarth yn lled gytûn mae eglurach o dipyn oedd: Dŷn ni eisiau i ti ddod i deyrnasu, ac i’r cwbl sy’n dda yn dy olwg di ddigwydd yma ar y ddaear fel mae’n digwydd yn y nefoedd (Mathew 6:10 Beibl.net). Ond, gwell ganddynt Sancteiddier dy enw (6:9b WM) na dŷn ni eisiau i dy enw gael ei anrhydeddu (6:9b Beibl.net) Pam? Gellid anrhydeddu pobl, ond haedda enw Duw fwy nag anrhydedd - gan mai sanctaidd ydyw, rhaid i ni sancteiddio’i Enw mewn gweddi a gwasanaeth.
Yn y capel, parhau a wnaethom i ystyried y Beibl. Nid pregeth a gawsom heddiw'r bore, ond dwy homili. Yn y cyntaf pwysleisiwyd yr angen i ddarllen y Beibl o ddifri, ac i fod o ddifri wrth ddarllen y Beibl. Magu chwilfrydedd Beiblaidd yn ein heglwysi yw’r gwaith pwysicaf y gelwir arnom i’w cyflawni: parhawn i ddarllen a chyd-ddarllen, gan annog eraill i ddarllen a mwynhau’r Beibl. Nid maes astrus i ysgolheigion ac arbenigwyr mo’r Beibl, ond cyfrwng i adnabod y Duw Dad, a’i Fab - Iesu ein harglwydd.
Trafod pwysigrwydd cyfieithu’r Gair Duw wnaeth y Gweinidog yn yr ail homili. Sonnir llawer heddiw am the problem of communication. Y mae’r drafferth hon yn real iawn i bobl Ffydd, am ein bod yn ymwneud cymaint â phethau o’r gorffennol pell. Llyfr wedi’i sgrifennu a’i gyfieithu canrifoedd yn ôl yw’r Beibl. Am fod iaith yn newid, ac amgylchiadau bywyd yn newid, mae’n rhaid wrth gyfieithiadau newydd o’r Beibl yn barhaus. Gwyddom, hefyd nad y llyfr sy’n rhoi bywyd tragwyddol inni, ond y Person y sonnir amdano yn y llyfr. Gwerth y Beibl yw ei fod yn tystio am Grist, a’n dyletswydd ninnau yw cyfieithu ein cyffes yn gymwynas, a’n credo yn credu - y geiriau’n Air Disglair Duw.
Liw nos, eto dwy homili a gafwyd; y naill yn seiliedig ar Effesiaid 4:1-13, a’r llall ar Luc 10:25-37 (Diolch Gwennith ac Elfan am ddarllen y Gair heno) Try’r ddwy homili ar yr un echel: Yn 1908 y cynhaliwyd yr Wythnos Weddi am Undeb Cristnogol am y tro cyntaf, er mai'r Wythawd Undod Cristnogol y’i gelwid y pryd hynny. Penderfynwyd ar ddyddiadau’r cyfnod fel wyth nos yn dechrau ar Ŵyl Cyffes Pedr (18 Ionawr) ac yn gorffen ar Ŵyl Tröedigaeth Paul (25 Ionawr).
Pan â defod yn bwysicach na Duw, ac arfer yn bwysicach nag addoli, a thraddodiad yn bwysicach na thröedigaeth, rhwygir undod yr Eglwys a pheryglir ei thystiolaeth. Mae’r Wythnos arbennig hon yn gyfle i gydnabod nad oes gan yr un gangen na phwyslais diwinyddol fonopoli ar y gwirionedd. Llawenhawn yn y goleuni mwy a’r ddealltwriaeth lawnach ddaeth drwy gydymgynghoriad, cyd-weithio a chyd-weddïo adrannau gwahanol o Eglwys Crist. Cydnabyddwn yn ddiolchgar gyfraniad gwerthfawr pob cangen o Eglwys Crist a rhyfeddwn at allu Duw i ddefnyddio cyfryngau mor wahanol i ddwyn tystiolaeth i’w Enw ger bron y byd. Yr wythnos hon, ac o’i herwydd, tywyser ni i brofi’n helaethach ein hundod yng Nghrist. Galwyd ni gan Grist i fod yn Un ynddo ef, i ddwyn tystiolaeth iddo ac i genhadu drosto yn y byd rhanedig hwn fel y sancteidder ei Enw drwom ni - pawb ohonom.
Mae disgwyl eiddgar am y Sul nesaf hwn. Gwyddom am ei weinidogaeth a’i arweiniad cadarn fel Ysgrifennydd Cyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Braint fydd cael cwmni'r Parchedig Meirion Morris. ‘Rydym yn gwybod y cawn ganddo bregethu meddylgar a phregethau gwerthfawr. Gweddïwn am wenau Duw ar y Sul. Ein braint fel eglwys prynhawn Sul nesaf yw cael bod gyfrifol am de i'r digartref yn y Tabernacl, Yr Âis am 2:30
Diolch am amrywiol fendithion y dydd.