Salm 149
Dathlu buddugoliaeth Duw a wneir yn Salm 149. Buddugoliaeth pobl Dduw yw buddugoliaeth Duw. Defnyddid holl elfennau pasiant a gŵyl yn y Salm hon - llawenydd, moliant, gorfoledd a dawns i gyfeiliant tympan a thelyn. Mynegir y fuddugoliaeth mewn delweddau cadarn: ysgwyd cleddyf daufiniog, rhwymo brenhinoedd a phendefigion mewn cadwynau ac â gefynnau haearn. Sail y dathlu yw bod Duw yn dal i ymhyfrydu yn ei bobl ac yn rhoi o’i fuddugoliaeth i’r rhai sy’n ymddiried ynddo - ei holl ffyddloniaid (Salm 149:9). Cyfrwng yw’r dathlu i gyflwyno o’r newydd y gwirionedd oesol gyfoes fod Duw o blaid ei bobl. Diben y cyflwyno yw cael pobl Dduw i ymddiried o’r newydd yn Nuw.