Dros y Sul, ein braint fel eglwys fydd cael gwrando cenadwri a derbyn arweiniad gan y Parchedig Aled Davies (Chwilog). Gwyddom y cawn ganddo bregethu meddylgar a phregethau buddiol a bendithlawn. Yn ôl ein harfer, bydd yr Oedfa Foreol am 10:30. Bydd yr Oedfa Hwyrol am 18:00. Gweddïwn am wenau Duw ar Oedfaon y Sul.
Yn dilyn yr Oedfa Foreol, gwahoddir pawb i lansiad MUNUD YN DY GWMNI, cyfrol o weddïau a myfyrdod gan ein Gweinidog.