Wrth i ni ddathlu’r Ŵyl dylem gofio am gyfnod Iesu fel ffoadur a chroesawu ffoaduriaid heddiw, meddai’r Parchg Ddr R. Alun Evans, Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, yn ei neges Nadolig.
Dwy fil o flynyddoedd ers i deulu Iesu orfod ffoi i’r Aifft cyn i Herod ladd babanod Bethlehem, yn ôl Efengyl Mathew, mae ffoaduriaid o’r Dwyrain Canol yn dal i ffoi am eu bywydau heddiw, meddai.
"Fel Cristnogion, dylem groesawu ffoaduriaid digartref gyda breichiau agored," dywedodd. "Byddai eu troi hwy i ffwrdd yn groes i ddysgeidiaeth Iesu, sy’n ein hannog ni i roi cartref i’r dieithryn, gan ychwanegu ‘yn gymaint ag i chi ei wneud i un o’r rhai lleiaf o’r rhain… i mi y gwnaethoch.’ (Mat.25:40.)
"Cafodd sefyllfa’r ffoaduriaid o Syria a gwledydd eraill, a ddaeth i’r amlwg yn y llun trasig o’r bachgen bach Aylan Kurdi wedi’i foddi ar draeth yng Ngwlad Groeg, ei wthio’n ôl i’r cysgodion gan y lladdfa erchyll ym Mharis. Ond rhaid i ni beidio â gadael i weithredoedd yr ychydig milain beri i ni galedu ein calonnau tuag at gyflwr enbydus y ffoaduriaid.
"Mae’n dorcalonnus bod rhai Cristnogion, ym Mhrydain ac yn America, am gau’r ffiniau i’r trueiniaid hyn. Dylem gofio addewid Iesu: ‘ni fwriaf allan fyth mo’r sawl sy’n dod ataf i,’ (Ioan 6:37)" meddai Dr R. Alun Evans. "Yn ei enw ef, rhaid i ni estyn cymorth i’r sawl sydd heb obaith y Nadolig hwn."
annibynwyr.org
24/12/2015