‘Roedd pum cannwyll y torch Adfent yng nghyn wrth i bawb ddod ynghyd. Trodd O! tyred di, Emanwel... yn ...
Ar gyfer heddiw’r bore
‘n faban bach
y ganwyd gwreiddyn Jesse
‘n faban bach.
Mawr ein diolch am gael
... gweld ein Prynwyr c’redig
aned heddiw, Ddydd Nadolig.
Un o bennaf fendithion bore Nadolig yw’r cyfle a gawn i gyd-addoli â’n brodyr a chwiorydd yn eglwys y Crwys. Hapus a buddiol bu’r berthynas rhyngom ers blynyddoedd lawer, a mynegiant o hynny yw’r dod yng nghyd i ddathlu geni Iesu Grist. Eleni, â ninnau yng nghapel Minny Street, nyni fu’n arwain defosiwn yr oedfa, a’r Parchedig Lona Roberts, un o ffyddloniaid eglwys y Crwys bu’n pregethu. Wedi defosiwn hwyliog a sionc, cawsom gan Lona bregethu meddylgar a phregeth werthfawr. Fe’n hatgoffwyd gan Lona o faint a sylwedd y cyfraniad a wneir gan weinidogaeth a chenhadaeth y proffwydi lleiaf i’n crebwyll a chyhoeddi ninnau o wyrth yr ymgnawdoliad. Os ychydig o ddiddordeb sydd bellach yng ngwaith y proffwydi bach hyn, nid felly ein cyndadau yn ffydd: mae emyn cynhyrfus John Evans, Amlwch (1791-1809) yn pwyso ar gân Seffaneia broffwyd o lawenydd mawr (Seffeneia 3:14-20):
O! angau, pa le mae dy golyn?
O! uffern, ti gollaist y dydd!
Y Baban a anwyd yn Methle'm
orchfygodd bob gelyn y sydd;
ni raid i blant Seion
ddim ofni
myn'd adref dan ganu i'w gwlad -
eu ffordd sydd yn rhydd tuag yno,
a honno gysegrwyd â gwaed.
... ni raid i blant Seion
ddim ofni
myn'd adref dan ganu i'w gwlad ...
Pam hynny? Dyma’r ateb:
Y Baban a anwyd yn Methle'm
orchfygodd bob gelyn y sydd.
A phwy sy’n sôn am y rhyfeddod o ddaw o dref ddi-nod Bethlehem Effrata? Y proffwyd Micha (5:2). Mynnai Lona fod stori’r geni yn annog pobl i ddod a gweld y rhyfeddod. Nid pawb sy’n derbyn, yn wir, myn rhai ymwrthod! Dyna oedd profiad Iesu a dyna hefyd brofiad yr Eglwys Fore. Un a wrthodwyd yw Iesu. Mae ei ddyfod, o hyd fyth yn peri gwrthdaro ac mae ei wendid yn cymell i gerdded llwybr gostyngeiddrwydd, i ganfod y nerth sydd mewn gwendid a’r grym sydd mewn gwyleidd-dra. Mae gostyngeiddrwydd Crist yn dysgu ein gostyngeiddrwydd ni. O ymostwng y mae i ni gael ein dyrchafu, ac o blygu y cawn ein codi. Dangosodd Iesu mai’r unig waredigaeth o afael grym noeth a’r dinistr a’r gwallgofrwydd a achosir ganddo yw gweithredu grym gwahanol - grym cariad, tynerwch a maddeuant. Awn rhagom i flwyddyn newydd gan wybod, gan gyhoeddi:
Y Baban a anwyd yn Methle'm
orchfygodd bob gelyn y sydd.
Diolch i Lona am ei chenadwri.