Yn y dyddiau hynny, pan oedd y disgyblion yn amlhau, bu grwgnach ... (Actau 6:1a)
Nid perffaith mo’r gymdeithas Gristnogol gynnar. Fel ymhlith Cristnogion heddiw, 'roedd tensiynau hefyd ymhlith y Cristnogion cynnar. Roedd yr Iddewon Groeg eu hiaith yn cael eu hystyried gan yr Iddewon Hebraeg yn simsan eu hymrwymiad i draddodiad; tra bod yr Iddewon Groegaidd yn eu tro, yn ystyried yr Iddewon Hebraeg yn gul a rhagfarnllyd. Er iddynt, un ac oll cael eu derbyn i gymdeithas pobl Crist, o dipyn i beth daeth hen densiynau i’r amlwg o fewn y gymdeithas newydd. Mynegwyd yr holl densiynau trwy gyfrwng un tensiwn yn benodol, sef y modd y gweinyddwyd y gronfa ar gyfer y gweddwon anghenus. Ni chodwyd cronfa gynnal erioed na chododd yn ei sgil gnwd sylweddol o anawsterau!
Mynnodd y Deuddeg mae pregethu oedd eu busnes hwy, ac mae gwell oedd galw pwyllgor i setlo’r mater hwn. Nid yw’n addas ein bod ni’n gadael gair Duw, i weini wrth fyrddau (Actau 6:2). Da yw troi nawr at 1 Corinthiaid 12: 27,28 lle ceir sôn am bobl yn cynorthwyo: Yn awr, chwi yw corff Crist, ac y mae i bob un ohonoch ei le fel aelod. Ymhlith y rhain y mae Duw wedi gosod yn yr eglwys, yn gyntaf apostolion, yn ail broffwydi, yn drydydd athrawon, yna cyflawni gwyrthiau, yna doniau iacháu, cynorthwyo, cyfarwyddo, llefaru â thafodau. Lled debyg mai’r hyn a eilw’r Deuddeg yn weini wrth fyrddau oedd y cynorthwyo hwn, sef gofalu am y tlawd, yr amddifad a’r dieithr. Mae Paul yn pwysleisio er uched gomisiwn apostol, er huotled y proffwyd, er mor ddawnus yr athro ofer y cyfan heb bwysleisio ochr ymarferol yr Efengyl a’i galwad i gynnig cymorth i bawb. Onid dyna neges y Crud a’r Groes, y bedd Gwag a’r Pentecost? Ein huchel alwedigaeth ni yw nid yn gymaint pregethu’n ffydd ond mynnu bod y byd yn gweld ein credo mewn cymwynas; ein bod ni’n cynorthwyo’r Cynorthwywr Mawr - Iesu Grist.
Etholwyd saith o ddynion ac iddynt air da (6:3). Diaconiaid y gelwir hwy. Enw Steffan sydd ar ben y rhestr. Gwaith y saith oedd cynnal a gweinyddu cronfa’r gweddwon. Ond ‘roedd Steffan yn fwy o lawer na’i swydd. Fe ddaeth y cynorthwyydd hwn i’r amlwg fel diwinydd a phregethwr o’r rheng flaenaf. Sonnir am ei weinidogaeth mewn synagog yn y ddinas. Gweinidogaeth dadlau, trafod ac ymresymu oedd hon. Gweinidogaeth newydd sbon. Llwyr feddiannwyd ef gan nwyd yr Efengyl am achub pobl: achub pobl yn gyflawn i Grist yn gorff, meddwl ac ysbryd ... ni allent wrthsefyll y doethineb a’r ysbryd yr oedd yn llefaru drwyddo (6:10). Dyna chi’r rysáit am Gristion effeithiol! Doethineb ac ysbryd. Doethineb ac ysbryd Steffan a fu’n gyfrifol am newid allweddol yng nghyfeiriad gwaith y gymdeithas Gristionogol. Cyfuniad tebyg ynom ni fydd yn peri newid tebyg yng ngwaith yr union un gymdeithas heddiw.
(OLlE)