Myfi yw’r ffordd... (Ioan 14:6a) Dyma eiriau Iesu wrth Thomas. Mae adnod yn yr Efengyl yn ôl Thomas: Dywedodd Iesu: Myfi yw Pont y Bywyd.
Mae angen pont yn ogystal â ffordd. Un o bennaf anghenion ein cyfnod yw pontydd diogel: pontydd rhwng cenhedloedd, hiliau, cenedlaethau. Â ninnau yng nghanol Wythnos o Weddi am Undod Cristnogol cydnabyddwn yr angen am bontydd diogel rhwng eglwysi a thraddodiadau Cristnogol. Er mor anodd yw codi’r pontydd hyn, anos eu cynnal a’u cadw. Gall Aretha Franklin ein harwain at yr un peth sydd angen i gadw, cynnal a chodi’r pontydd angenrheidiol hyn: all I’m askin honey is a little R-E-S-P-E-C-T!
Gorchfygol gariad Iesu gwiw,
holl wasanaethwyr teyrnas Dduw
a uno yn un teulu byw:
gan wneud d'ewyllys awn ymlaen
i newydd dasg â newydd dân:
boed d'Eglwys yn un teulu glân. Amen
G.K.A.Bell, 1883-1958 cyf. D.Eirwyn Morgan, 1918-82 (CFf.:351)
(OLlE)