Canol mis Ionawr mae holl wariant y Nadolig a’r sêls yn ein goddiweddyd: daw bil y cerdyn credyd.
Gair bach rhyfedd yw Credit? Gair llyfn, melfedaidd yn awgrymu rhywbeth am ddim; anrheg, gwobr. Mae’r melfed yn cuddio dwrn o ddur: y gwrthwyneb sydd wir - debit yw credit; dyled ydyw.
Mae Credit yn caniatáu i berson feddwl fod ganddo’r awenau’n ddiogel yn ei ddwylo. Gall darn bach tenau o blastig ein galluogi i bontio’r gagendor rhwng eisiau rhywbeth a chael y peth hwnnw. Mae Credit yn awgrymu rhyddid, ond rhyddid heddiw yw caethiwed yfory. Nid oes dianc rhag y bil.
Mae dyled yn realiti i’r mwyafrif o ohonom, yn gaethiwed llethol i rai, yn fusnes i eraill. Erbyn diwedd Tachwedd 2015, ‘roedd dyledion pobl Cymru, Lloegr a’r Alban gyda'i gilydd wedi cyrraedd bron i £1.458 triliwn. Ar gyfartaledd mae pob aelwyd felly mewn dyled - gan gynnwys morgeisi - o £54,000. (Ffynhonnell: moneycharity.org.uk)
Eithriadau yw’r rheini nad ydynt mewn dyled o ryw fath. Dyled yw morgais wedi’r cyfan, ac mae’r ddyled honno’n yn ein dal yn dynn am flynyddoedd lawer. Mae ein breuddwydion am wneud rhywbeth gwahanol â’n bywyd wedi eu claddu mewn bricks a mortar. Rhaid gweithio oriau hir i sicrhau fod gennym ddigon o arian i dalu’r morgais, i dalu’n dyledion, i gynnal safon byw. Yn llythrennol felly, gweision cyflog ydym. ‘Does dim rhyfedd fod y Beibl yn ystyried dyled fel y caethiwed creulonaf oll (Deuteronomium 15:1-2).
Mae’r rhwystredigaeth, gwrthdaro, medd-dod a dibyniaeth gynyddol ar anti-depressants sydd mor nodweddiadol o’n cyfnod, yn arwydd efallai o’r ffaith ein bod ni’n gwingo’n reddfol yn erbyn ein cadwynau, a bod ynom awydd dwfn a dwys i gael bod yr hyn y bwriadwyd ni i fod: yn rhydd.
(OLlE)