Yr Wythnos o Weddi am Undod Cristnogol - 1
Y Nofel (Effesiaid 4: 1-13)
Beth yw nofel? Anodd cyffredinoli. Gall nofel gynnwys pethau mor wahanol i’w gilydd â Jane Eyre a Finnegan’s Wake, The Wind in the Willows ac Animal Farm; Traed mewn Cyffion a Leni Tiwdor. Cynnwys ‘Y Nofel’ pob ymdrech ar ran y llenor i greu mewn rhyddiaith ddarlun dychmygol o’r profiad dynol. Ni ellir diffinio yn fanylach na hynny. Mae’r Eglwys Gristnogol yn debyg i ‘Y Nofel’! Mewn ystafell fawr dychmyger Graham Greene (1904-1991) a Kate Roberts (1891-1935), Jane Austen (1775-1817) a Daniel Owen (1836-1895), T. Rowland Hughes (1903-1949) ac Iris Murdoch (1919-1999), T. Llew Jones (1915-2009) a Cormac McCarthy (gan.1933); J.K.Rowling (gan.1965) a Fflur Dafydd (gan.1978). Maent yn ysgrifennu; ceisio crisialu mewn geiriau eu deall o’r profiad dynol. Dyma gymysgwch cwbl ddi-ffurf. Yr unig beth sy’n cydio’r nofelwyr yn un teulu yw’r ffaith mai’r profiad dynol sy’n ddiddorol i bob un ohonynt. I hyn yr ymdebyga'r Eglwys Gristnogol. Er bod arddull yr amrywiol ‘nofelwyr’ Cristnogol yn wahanol, yr un yw’r nod: mynd i’r afael â’r profiad dynol o ewyllys cariadlawn Duw. Creu pobl yw busnes nofel; creu byd arall. Onid dyna waith yr Eglwys Gristnogol? Creu byd arall, a’i greu yn fyw: Deled dy deyrnas. Gwneler dy ewyllys, megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd (Mathew 6:10), a hynny trwy greu pobl newydd yng Nghrist: os yw dyn yng Nghrist, y mae’n greadigaeth newydd (2 Corinthiaid 5:17). Hynny yw, pobl sydd, mewn gair a gweithred, yn ysgogi ymateb, sydd a’i hesiampl yn gymorth i ni ac yn her i fyw ymhell y tu hwnt i derfynau eu cyfnod a chyfyngiadau eu hoes.
Ceir nofelau mawrion, oesol eu hapêl a’u cyfraniad, a nofelau bychain, niwlog a diddim. Dyma'r Eglwys Gristnogol? Y nofelau sy’n aros yn y cof yw’r rheini sy’n cael eu gyrru ymlaen gan ryw weledigaeth sy’n rhoi undod, cyfeiriad, a phwrpas i’r cyfan. Crea’r nofelydd gymeriadau a byd er gwasanaeth i’r weledigaeth ganolog honno. Holed pob eglwys ac aelod ei hun: pa fath ‘nofel’ Gristnogol ydym ni? Nofel ag iddi derfynau lleol, ieithyddol a diwylliannol, ond sydd oherwydd berw’r ffydd, gobaith a chariad sydd ynddi, yn codi tu hwnt i’r terfynau, gan sicrhau dylanwad dwfn a bendith eang a phellgyrhaeddol? I’r Cristion, gweithio a chydweithio i fod y fath hon o ‘nofel’ yw’r unig lwyddiant i ymgyrraedd ato; hyn neu fodloni ar fod yn pulp fiction crefyddol.
Yr Wythnos o Weddi am Undod Cristnogol - 2
Ffuglen (Luc 10: 25-37)
A yw ffydd yn debyg i ffuglen? Ffuglen yw War and Peace (Leo Tolstoy, 1828-1910); ynddi mynega’r awdur wirionedd bythol newydd, ac oesol gyfoes. Trwy gyfrwng ffuglen, cyflwynir holl ystod cydymdeimlad cariadlawn Tolstoy â’i bobl yn Rwsia. Trwy ffuglen cafwyd gwirionedd. Crëir cydymdeimlad, nid gan eitem newyddion, nac ychwaith trwy ymwybyddiaeth o realiti eraill, ond trwy ffuglen ddofn a dwys. "Pa fath brofiad yw bod y bachgen Mwslimaidd hwn?" meddyliai’r bachgen o Gymro Cristnogol un bore. I ateb, crëir ffuglen. Try’r bachgen bach o Gymro Cristnogol yn fachgen Mwslimaidd. Gwisga, addola a ‘byw’ bywyd y bachgen Mwslimaidd. Ydi’r manylion yn gwbl ffeithiol gywir? Nac ydynt! Ffuglen ydyw a blasu’n wahanol wna geiriau fel ‘Mwslim’, ‘Islam’ a ‘Mosg’. Trwy gyfrwng ffuglen pur crëir cydymdeimlad. Mae pob perchen ffydd yn gorfod creu ffuglen. Mae geiriau Iesu: ... a châr dy gymydog fel ti dy hun (Luc 10:27) yn hawlio ymdrech mewn ffuglen. Myn y geiriau hyn, fy mod i, wrth dy weld di, yn gweld fy hun; ac, o’r herwydd, yn ymwneud â thi yn union fel y byddwn yn ymwneud â fi fy hun. Myn Iesu ein bod yn ymrwymo i’r ffuglen: TI = FI; byw'r ffuglen hon hyd nes i ni anghofio mai ffuglen ydyw! Dyma hanfod ein ffydd: adeiladu realiti ar sylfaen y ffuglen TI = FI, FI = TI.
That is what we are supposed to do when we are at our best - make it all up - so truly that later it will happen that way. (llythyr gan Ernest Hemingway (1899-1961) i F. Scott Fitzgerald (28/5/1934))