Blwyddyn y Beibl Byw – 1
5SistrsWntngHsbnds. NwMenInTwn-Bingly&Darcy-Fit&Loadd. BigSisJaneFals4B,2ndSisLiz H8sDCozHesProud.SlimySoljrWikamSysDHsShadyPast.TrnsOutHesARlyNysGuy&FancysLiz.SheDecydsSheLyksHim.Evry1GtsMaryd.
Pa nofel yw hon? Pride and Prejudice! (Five sisters wanting husbands. New Men in townBingley and Darcy - fit and loaded. Big sister Jane falls for Bingley. Second sister Elizabeth hates Darcy because he’s proud. Slimy soldier Wickham says that Darcy has a shady past. Turns out he’s a really nice guy and fancies Elizabeth. She decides that she like him. Everyone gets married.)
How to Talk About Books You Haven’t Read (Pierre Bayard, gan. 1954). Llyfr i’r honedig-ddiwylliedig. Yn ôl yr awdur, mewn cwmni o bobl lyfryddol, dylid rhoi llyfr mewn un o bedwar categori cyn penderfynu beth sydd orau i gyfrannu i’r sgwrs heb amlygu anwybodaeth: UB: book unknown to me; SB: book I have skimmed; HB: book I have heard about; a FB: book I have forgotten. I drwch Cymry 2016, FB yw’r Beibl. I rai mae’n HB, ac i’r mwyafrif llethol o ieuenctid mae'n UB. Pam? Onid am mai llyfr SB yw i’r union bobl hynny a ddylai fod yn ei ddarllen o ddifri, a’i drafod yn gall a chyson? Llwyddasom i droi llyfr cwbl berthnasol i bopeth yn gwbl amherthnasol i ddim. Magu chwilfrydedd Beiblaidd yn ein heglwysi yw’r gwaith pwysicaf y gelwir arnom i’w gyflawni. Dylai pobl ffydd gymryd at astudiaeth Feiblaidd ‘fel cath at laeth’! Yn hytrach, ynganwn y gair ‘Astudiaeth’, fel petai ein ceg yn llawn halen! Nid yw’r Beibl wedi achub neb erioed ac, ydyw, mae’r Gair yn fwy na’r geiriau. Na ato Dduw i ni anghofio bod y Gair yn y geiriau, a gwir fawl i’r Gair yw darllen a thrafod y geiriau.
Blwyddyn y Beibl Byw - 2
Camp yr Esgob William Morgan (1545-1604) oedd safoni’r iaith Gymraeg a’i chadw’n fyw. Trodd ieithoedd gwreiddiol y Beibl yn Gymraeg darllenadwy. "’Rwy’n gweld eich bod yn darllen y Beibl", meddai’r gweinidog ifanc wrth yr hen wraig, "Na, machgen i, y Beibl sy’n fy narllen i", atebodd. Dyna pam y bu Cristnogion ar hyd y canrifoedd yn cyfieithu’r Gair, yn cymell pobl i’w brynu, yn dysgu pobl i’w darllen, yn sefydlu Cymdeithasau Beiblaidd i rannu copïau ohono, a’i gyflwyno mewn iaith lafar, ddealladwy, fel Arfon Jones ac Ymddiriedolaeth Gobaith i Gymru.
Sicrhaodd William Morgan ein bod yn clywed ‘am y tro cyntaf y Tad, y Mab a’r Ysbryd Glân yn parablu yn Gymraeg.’ (Yr Esgob William Morgan gan Gwenallt (1899-1968) o Gwreiddiau, Gwasg Aberystwyth; 1959). Boed i ni feithrin ynom y dygnwch a’r dewrder i barhau â’r gwaith o gyfieithu Gair Duw. Gwaith allweddol pwysig ond anodd yw cyfieithu Gair Duw. Mae’n galw am gyfuniad o ddeall ieithyddol a chrebwyll diwylliannol fel dengys hanes Wilfred Grenfell (1865-1940) fu’n cenhadu yn Labradôr a’r Tir Newydd. Nid oedd ganddynt ddefaid, felly nid oedd geiriau am ‘fugail’ ac ‘oen’ yn golygu dim i’r trigolion ac nid oeddent yn bodoli yn eu hiaith. Newidiodd Grenfell y geiriau: Trannoeth gwelodd Iesu’n dod tuag ato, a dywedodd, ‘Dyma Forlo Duw, sy’n cymryd ymaith bechod y byd! (addasiad o Ioan 1:29) Cynhyrfwyd un wraig yn fawr gan hyn ac anfonodd tegan ar ffurf oen i Grenfell. O hynny allan bu’r cenhadwr yn defnyddio’r ymadrodd ysgrythurol, yn hytrach na gair cwbl anysgrythurol wrth gyfathrebu’r Efengyl. Y wers: ystyr geiriau gwreiddiol y Beibl sy’n bwysig, nid y geiriau eu hunain. Nid yr un yw dweud fod Gair Duw yn y Beibl â dweud mai’r Beibl yw Gair Duw. Nid y llyfr sy’n rhoi bywyd inni, ond y Person y sonnir amdano yn y llyfr. Canfod y trysor yn y llestri pridd yw’r gamp. Rhaid gwahanu rhwng y geiriau a’r Gair. Mae galw ar bob perchen ffydd i gyfieithu’r ffydd honno’n ffordd o fyw. Cyfryngau yw’r Beibl, ffydd, cyffes a chred i amlygu gogoniant y Cyfryngwr. Yn ein hymdrechion i gyfieithu ein cyffes yn gymwynas, ein credo yn credu na foed i ni ddrysu rhwng y morlo a’r oen, rhag i bobl, o’n herwydd fethu gweld y Cyfryngwr oherwydd y cyfryngau.