'Munud i Feddwl' ein Gweinidog
Mae gwybodaeth yn beryglus. Mae gwybodaeth wyddonol yn wybodaeth beryglus. Fe wyddom bellach sut i hollti’r atom a phlethu genynnau, sut i glonio bywyd a thrawsblannu organau. Ymchwilio di-ball, ac un llwyddiant yn mynnu’r llall. Ond be’ wnawn i a’r wybodaeth hon a’r gallu a ddaw yn ei sgil? Wrth gwrs fod ffin rhwng beth a ellir ei wneud a beth a ddylid ei wneud, ond ychydig iawn o warchodwyr sydd ar batrôl ar hyd y gororau.
Mae ychydig benodau cyntaf y Beibl yn adrodd hanes Duw yn gosod terfynau i wybodaeth, ac felly i allu pobl. Mae Duw yn gorchymyn i Adda ac Efa i gadw draw o bren gwybodaeth da a drwg. Mae Duw yn drysu holl gynlluniau adeiladwyr Babel. Pam? Oherwydd bod Duw yn malio amdanom, ac yn gwybod fod gwybod gormod yn angheuol i’r enaid meidrol.
Daw hyn a ni’n naturiol at fath arall o wybodaeth beryglus - gwybodaeth o Dduw. Mae’r mwyafrif llethol o bobl a fu’n ddyfal a dygn yn hel gwybodaeth am Dduw yn cyrraedd yr un casgliad: fod ein gwybodaeth ohono’n tyfu wrth gydnabod ein hanallu i wybod amdano. Fe ddown i’w adnabod yn well wrth gydnabod ein hanallu i’w adnabod.
Dros bum cant o flynyddoedd yn ôl, roedd offeiriad o’r enw Nicholas (Nicolaus Cusanus neu Nicholas o Cusa 1401 - 1464) yn hwylio yn ôl adre i’r Almaen o Gaer Cystennin. Cafodd brofiad ysgytiol o Dduw ar fwrdd y llong; profiad a newidiodd ei ffordd o feddwl a byw yn llwyr. Cafodd brofiad go iawn o’r Duw a fu, cyn hynny, yn ddim amgenach na chymysgwch o hen goel a chredo benthyg. ‘Roedd y profiad yn gwbl gyfan, gyfan gwbl tu hwnt i afael geiriau a delweddau, ond mentrodd Nicholas ysgrifennu o gwmpas y profiad yn ei gyfrol enwocaf: De Docta Ignorantia; Ar Hyddysg Anwybodaeth.
Nid darllen hawdd mo Ar Hyddysg Anwybodaeth. Mae’r gyfrol yn uwd tew o fformiwlâu mathemategol, ffigyrau geometric a therminoleg astrus ddiwinyddol. Hawdd iawn yw tagu arno. Ond, hyd yn oed wrth fras ddarllen fe ddaw prif bwyslais Nicholas i’r amlwg: Mae Duw y tu hwnt i’n gallu i’w adnabod. Mae pobl wrth geisio gwybod amdano fel tylluanod yn syllu i fyw llygad yr haul. Cawn ein dallu gan ei ogoniant bob tro, ond er waethaf hynny daliwn ati i ddal ati i syllu. Nid pechod mo hyn, meddai Nicholas, ond dyhead am Dduw, gan Dduw, i wybod yr hyn nis gwyddom. Hen newynu yn nwfn enaid pawb ohonom ydyw, hen awydd yn crynhoi yn y galon: mae gwybod am wybod mwy. Pendraw hyn , awgryma Nicholas yw hyddysg anwybodaeth. Gwybod nad ydym yn gwybod, ond dyheu am wybod yr hyn nis gwyddom.
Argyhoeddiad Nicholas yw mai’r bobl dwpaf yn y byd yw’r bobl sy’n cogio gwybod y cyfan. Mae eu hargyhoeddiad hwy am beth sydd yn wir yn magu cynnen rhyngddynt ac eraill ac yn eu rhwystro rhag dysgu unrhyw beth newydd. Dyma wybodaeth eithriadol beryglus. Mae rhaglenni newyddion y dydd yn llawn ohonynt a'i anhyddysg wybodaeth. Nid ydynt yn gwybod nad ydynt yn gwybod. Dyfeisiant inni uffern na welodd Dante namyn gysgod o’i ffyrnigrwydd hi.
Yn ôl y ffisegydd Richard Feynman, mae ansicrwydd yn rhinwedd bwysig mewn gwyddoniaeth a chrefydd. Wrth wybod nad ydych yn gwybod mae cyfle i wybod mwy. A dyna pam mae Ffenomen yn annog ac yn amddiffyn yr hyn a ddisgrifir ganddo fel athroniaeth gall o anwybodaeth - a satisfactory philosophy of ignorance - athrawiaeth sydd yn sicrhau fod drws yr hyn nis gwyddom heb ei gloi.
Nid yw hyddysg anwybodaeth yn ein diogelu rhag gwaethaf gwybodaeth beryglus, mae terfysg, rhyfel a dinistr amgylcheddol yn brawf o hynny. Ond mae hyddysg anwybodaeth yn cynnig gobaith a nod i’r rheini ohonom sydd yn chwilio ac yn wir ddyheu am yr addysg orau posib. Dechrau gwir ddoethineb yw gwybod nad ydym yn gwybod.
(OLlE)