Edrychwn ymlaen at y Sul nesaf; Sul llawn, ac amrywiol ei fendithion: Cysylltu’r dotiau a chreu eglwys fydd thema’r Oedfa i’r Teulu (10:30). Wrth y bwrdd, hyfrydwch gennym, y Sul hwn eto fydd cael derbyn aelodau newydd i’n plith: Angharad ac Ieuan, ac i gyflawn aelodaeth o Eglwys Iesu Grist, Tomos. Hefyd, cawn gyfle i gydymdeimlo â’r galarus yn ein plith, a chofio’r aelodau hynny sy’n methu a bod gyda ni, gan bellter ffordd, cystudd neu henaint.
Er nad yw plant yn cymuno yn eglwys Minny Street, mae’n fwriad gennym fod y plant a’r plantos yn dysgu beth yw arwyddocâd y ddefod hon. I wneud hynny, rhaid iddynt ddeall beth sydd yn digwydd, ac o’r herwydd symleiddiwyd yr eirfa ac addaswyd y delweddau’r mymryn lleiaf i gynnwys, addysgu a pharatoi’r ifanc yn ein plith.
Bydd paned a nwyddau Masnach Deg yn y Festri wedi'r oedfa.
Liw nos (18:00) byddwn yn parhau gyda’r gyfres pregethau ‘Pobl y Testament Newydd’. Nos Sul, Nicodemus fydd testun ein sylw. (Genesis 12:1-4a; Rhufeiniaid 4:1-5,13-17; Ioan 3:1-17). Pharisead, pennaeth yr Iddewon, dysgawdr yn Israel - dyn o ddylanwad mawr ac o wybodaeth eang. Gofynnwyd y cwestiwn ganwaith: pam y daeth Nicodemus at Iesu liw nos. Awgrym ein Gweinidog yw bod a wnelo hynny â phaned o de!
Cynhelir Cwrdd Eglwys wedi’r Oedfa.
Bydd ein Diaconiaid yn cwrdd nos Lun. Gofynnwn am arweiniad Duw wrth iddynt fwrw trem yn ôl ar y flwyddyn waith hon gan bwyso a mesur yr hyn a gyflawnwyd gan ein cylchoedd gwasanaeth.
Babimini bore Gwener (7/7; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin.