Na fernwch, fel na'ch barner (Mathew 7:1a WM)
Pam wyt ti'n poeni am y sbecyn o flawd llif sydd yn llygad rhywun arall, pan mae trawst o bren yn sticio allan o dy lygad dy hun!? Sut alli di ddweud, 'Gad i mi dynnu'r sbecyn yna allan o dy lygad di,' pan mae trawst yn sticio allan o dy lygad dy hun? Rwyt ti mor ddauwynebog! Tynna'r trawst allan o dy lygad dy hun yn gyntaf, ac wedyn byddi'n gweld yn ddigon clir i dynnu'r sbecyn o lygad y person arall (Mathew 7:3-5 Beibl.net).
Ysgubed pob un
ei aelwyd ei hun
cyn sôn am y gwall
ar aelwyd y llall.
(Ar Dafod Gwerin, Tegwyn Jones, Cymdeithas Lyfrau Ceredigion Gyf. 2004)
Ni rydd perthynas person â Christ hawl iddo farnu. Nid cyfiawnder y Cristion yw'r safon. Nid person safonau, delfrydau, moeseg yw'r Cristion. Person o fewn ffiniau perthynas â Christ ydyw. Nid barn Cristion am ddrwg a da sy'n ei wneud yn Gristion, ond Gras Duw yn ei galon.
O! na bawn fel yr Iesu
yn maddau pob rhyw fai
‘roedd cariad yn ymarllwys
o’i galon e’n ddi-drai.
(Eleazar Roberts, 1825-1912; CFf.:721)
(OLlE)