Perthyn i bob iaith geiriau na ellid yn llwyr a llawn eu cyfieithu i iaith arall. Yn y Gymraeg mae gennym ‘Hiraeth’. Mae’r gyfres hon o fyfyrdodau yn ymdrin â nifer o’r geiriau rheini. Daw testun ein sylw heddiw o’r Rwseg: Pochemuchka. Golyga’n fras person sydd â thueddiad i ofyn llawer gormod o gwestiynau, ond nad sydd o reidrwydd mor barod i wrando’r atebion na derbyn ateb.
Nid yw Malachi ymhlith yr amlycaf o’r proffwydi. Mae gwaith a neges y proffwyd arbennig hwn yn ddiarth i’r mwyafrif. Proffwydoliaeth fer iawn ydyw - tair tudalen yn unig - 52 o adnodau; proffwydoliaeth yn drwch o gwestiynau!
Mae'r broffwydoliaeth yn dechrau’n hyderus: ’Rwy'n eich caru, medd yr Arglwydd (1:2). Geiriau hyfryd, ond ‘roedd bywyd yn galed, a phobl Malachi’n cael y fath ddatganiad o gariad dwyfol yn anodd derbyn. ‘Does dim syndod felly fod y bobl yn taflu ‘n ôl at Dduw y cwestiwn pigog: Ym mha ffordd yr wyt yn ein caru? 'Roedd popeth cyfarwydd yn chwalu'n deilchion o'u cwmpas - bywyd i gyd ar ben i waered - ac mae’r bobl yn mynnu cael gofyn: Ple mae Duw Cyfiawnder? (2:17). Mae Malachi broffwyd yn clywed cwestiynau ei bobl, cwestiynau miniog, ymosodol:
Sut bu inni ddirmygu dy enw? (1:6)
Sut yr ydym wedi dy flino O! Dduw? (2:17)
Sut yr ydym yn dy dwyllo O! Dduw? (3:8)
Ofer yw gwasanaethu Duw. Pa ennill sydd inni o gadw ei ddeddfau? (3:14)
Ond, ac yn yr ‘ond’ hwn fe ddown at athrylith Malachi: Pochemuchka. Gormod o gwestiynau a chwestiynu, heb fawr o awydd i wrando’r atebion a derbyn yr ateb. Deallodd Malachi mai’r lle gorau oll i guddio rhag Duw, yw cuddio ymhlith ein cwestiynau amdano. Try Malachi felly yn enau i gwestiynau Duw. Ym mhroffwydoliaeth Malachi down wyneb yn wyneb â'r Duw sydd yn holi, a chroesholi ei bobl:
Pan ddowch i offrymu anifeiliaid dall, cloff neu glaf yn aberth imi a'i da a derbyniol gennyf yw hynny? (1:8)
Y mae mab yn anrhydeddu ei dad, a gwas ei feistr. Os wyf fi'n dad, ple mae f'anrhydedd? Os wyf yn feistr, ple mae fy mharch? (1:6)
Onid un Duw a thad sydd gennych, pam felly yr ydych yn dwyllodrus tuag at eich gilydd? (2:10)
Dyma bwysigrwydd Malachi - mae’r proffwyd hwn yn herio pob Pochemuchka. Oes, mae gennym ein cwestiynau i Dduw, ond, mae ganddo yntau ei gwestiynau i ni. Mynnwch gyfle i ddarllen y broffwydoliaeth hon. Dyma Air Duw, yn holi enaid pob un ohonom. Gair Duw yn holi am natur, diben a chyfeiriad bywyd - fy mywyd i, ein bywyd ni.
F'Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen.