Salm 42 & 43
Un salm tri phennill yw Salmau 42 a 43; yn Salm 42 cawn y ddau bennill gyntaf, a Salm 43 yw’r pennill olaf. Ceir pedair/pum adnod i bob pennill, a phob pennill yn gorffen gydag adnod y gytgan: Mor ddarostyngedig wyt, fy enaid, ac mor gythryblus o’m mewn! Disgwyliaf wrth Dduw; oherwydd eto moliannaf ef, fy Ngwaredydd a’m Duw (Salm 42:5;11; 43:5).
Syched yw hanfod y pennill gyntaf (Salm 42:1-5). Mae’r Salmydd yn dyheu am bresenoldeb Duw ac addoliad y Deml. Mae’r Salmydd ymhell o Jerwsalem, ac mae gwawd a gwatwar diddiwedd ei elynion yn gwasgu’n drwm arno. Mae’r atgofion o’r gwyliau crefyddol, a’r canu gorfoleddus a’r gorymdeithio llawen yn llethu ei galon. Mae ei enaid yn hesb. Mae blas y syched ar y gytgan gyntaf - 'does fawr o argyhoeddiad ynddi rywsut. Mae’r Salmydd yn ddigalon, a’i ffydd yn wan ...
Tywyllwch y dyfnder yw hanfod yr ail bennill (Salm 42:6-11). Cofia'r Salmydd eto am y trugaredd a’r gofal a fu, ond clyw o hyd gwatwar a gwawd ei elynion. Gofyn mae’r Salmydd pam y cafodd ei anghofio gan Dduw. Grymus iawn yw’r disgrifiad o’i gyflwr meddwl: Sŵn y dyfnder, sŵn raeadrau a thonnau’r môr. Syrthiodd i ddyfnder o ofid, mae ton ar ôl ton o hiraeth yn taro’n ddidrugaredd yn erbyn sylfaen ei fywyd. Pam y rhodiaf mewn galar, wedi fy ngorthrymu gan y gelyn (42:9b)? Gyda’r ail gytgan, mae’r alltud fel petai'n ceryddu’r digalondid sydd yn ei lethu. Mae’n mynnu cael codi ei ben uwchlaw’r tonnau gan gymryd llond ysgyfaint o wynt. Dim ond jest dal gafael mae’r truan hwn ...
Dryswch yw hanfod y pennill olaf (Salm 43:1-5). Fe ŵyr y Salmydd mae Duw yw ei amddiffyn. Dyma sail ei weddi, ond metha’n llwyr a deall pam fod Duw - ei nerth - wedi cefnu arno. Er hynny, nid yw hynny’n tagu ei weddi: Anfon dy oleuni a’th wirionedd, bydded iddynt fy arwain, bydded iddynt fy nwyn i’th fynydd sanctaidd ac i’th drigfan (43:3). Daw nodyn cryfach o obaith i ffydd y Salmydd ar ddiwedd y Salm. Gwêl y deml yn fwy clir, gwêl ei Dduw yn fwy clir. Sylwch: ... dof at allor Duw, at Dduw fy llawenydd; llawenychaf a’th foliannu â’r delyn O Dduw, fy Nuw (4). Mae’n nos arno, mae’n ‘stormus, mae’r dyfnder du yn gwasgu arno o bob tu, ond mae’r Salmydd yn gwybod nawr fod y wawr ar dorri. Edrych yn ôl oedd hwn ar ddechrau Salm 42, i hen ganu; edrych ymlaen y mae yn awr i ganu newydd. Grym y gytgan olaf yw glynu di-ollwng y Salmydd wrth Dduw er ei fod ymhell.
Arglwydd, dyro eto glywed caneuon gwaredigaeth yn ein byd. Amen