Fy nghariad, dywed wrthyf,
ymhle’r wyt yn bugeilio’r praidd
ac yn gwneud iddynt orffwys ganol dydd.
Pam y byddaf fel un yn crwydro
wrth ymyl praidd dy gyfeillion?
(Caniad Solomon 1:7 BCNad)
Pam y byddaf fel un yn crwydro …
… canys paham y byddaf megis un yn troi heibio sydd gan William Morgan.
Mae’r gariadferch yn cyfarch ei chariad i wybod ple mae ef a’i braidd yn treulio eu hawr o seibiant ganol dydd. ‘Roedd siesta o’r fath yn beth cyffredin: Aeth Rechab a Baana, meibion Rimmon o Beeroth, i dŷ Isboseth yng ngwres y dydd, tra oedd ef yn gorffwys ganol dydd. (2 Samuel 4:5 BCNad. Dynion drwg oedd Rechab a Baana! Os ydych am wybod rhagor, darllenwch hanes llofruddio Isboseth yng ngweddill pennod 4 o 2 Samuel!).
Mae’r gariadferch yn crwydro; chwilio am ei chariad. Gair (a phrofiad) cyffredin i’r Cristion yw crwydro. Gan William Williams (1717-91) cawn weld a deall fod gwahaniaeth sylweddol a sylfaenol rhwng crwydryn a phererin.
Pererin wyf mewn anial dir,
yn crwydro yma a thraw …
Nid oes nod gan grwydryn, ond mae’r pererin yn sicr ohono. Er gwybod am y nod, rhaid i bob perchen ffydd ofyn am arweiniad parhaus:
Arglwydd, arwain trwy’r anialwch
fi, bererin, gwael ei wedd. (W.W)
Benthycwn brofiad J.H. Newman (1801-90) yn sbardun i fyfyrdod pellach a gweddi:
… oleuni mwyn y nef,
O! arwain fi;
mae’n dywyll iawn, a minnau ‘mhell o dref.
O! arwain fi;
O! cadw ‘nhraed, ni cheisiaf weled mwy
i ben y daith: un cam a bodlon wy’.
(OLlE)