Yn aml, wrth ddal y pin ysgrifennu uwchben y gofod yn y llyfr ymwelwyr mewn eglwys neu fan cyhoeddus arall a chael fy annog i ysgrifennu nid yn unig fy enw ond hefyd rhyw ymateb i’m hymweliad, ‘dydi’r geiriau ddim o hyd yn dod yn rhwydd, a hawdd ffeindio fy hunan yn ysgrifennu rhyw eiriau gwag neu arwynebol mewn ymateb.
Ond nid felly yn ddiweddar. Tri gair ddaeth yn syth i’m meddwl ar ddiwedd yr ymweliad yma - ffydd, gobaith, cariad. Dyna’r cwbl - ffydd, gobaith, cariad; a dyna a ysgrifennais yn y llyfr.
Ymweliad â gwersyll carcharorion rhyfel Eidalaidd yn Henllan ydoedd ac, fel pawb arall ar yr ymweliad, cefais innau fy nghyfareddu gan hanesion bywydau’r milwyr fu’n garcharorion yno.
"Rhaid cofio i gofio a chadw ffydd" meddai Heledd yr wythnos diwethaf yn ei Munud i Feddwl a dyna’n union lwyddodd y dynion yma i’w wneud; cofio a chadw eu ffydd er gwaethaf bod yn garcharorion, ymhell oddi cartref, mewn cymunedau dieithr, gydag iaith ddieithr o’u cwmpas, yn gweithio oriau hir a chaled ar y tir er cynyddu’r cnydau a’r cynhaeaf. Do, fe lwyddont i gofio a chadw eu ffydd.
Uchafbwynt yr ymweliad i rai oedd gweld yr eglwys sy’n dal yno, mor brydferth a lliwgar heddiw ag oedd hi dros 70 mlynedd yn ôl. Eglwys wedi ei haddurno gan y carcharorion i’w hatgoffa o’u heglwysi Catholig Rhufeinig gartref yn yr Eidal gyda’r Swper Olaf wedi ei beintio ar y nenfwd, canwyllbrennau o bob maint, pileri yn edrych fel marmor a’r cwbl wedi ei greu allan o ddefnyddiau gwastraff fel caniau metal, sachau cement, a lliwiau’r paent i gyd o gynhwysion naturiol. Anhygoel!
Ond yr uchafbwynt i mi oedd cynnwys un fasged a ddangoswyd i ni.
Anrhegion oedd yn y fasged hon; anrhegion oddi wrth y carcharorion i rai o’r bobl leol. Anrhegion o ddiolch am garedigrwydd, anrhegion yn aml i blant lleol oedd yn amlwg yn atgoffa’r milwyr o’u plant hwythau nôl adref, anrhegion wedi eu creu eto o ddefnyddiau gwastraff, gydag ambell i freichled wedi ei chreu allan o’u tair-ceiniogau prin hyd yn oed.
Ynghlwm â’u ffydd gadarn, roedd gobaith - gobaith yng ngeiriau’r Ysgrythur y byddai Duw yn rhoi iddynt bopeth da yn helaeth, gobaith y byddai Duw yn eu cynnal ac yn dangos y ffordd iddynt hyd yn oed yn nhywyllwch eu sefyllfa.
A ffrwyth y ffydd a’r gobaith yma oedd yr anrhegion - eu hymateb i’r cariad a ddangoswyd tuag atynt hwy, sef ymateb hefyd mewn cariad.
Rhoesant o wirfodd eu calon, fel mae’r apostol Paul yn argymell i ni ei wneud, nid o anfodd neu o raid, ond o wirfodd calon. Rhoesant allan o’u tlodi.
Pa esiampl well tybed o’r rhoddwr llawen y mae Duw’n ei garu?
Y Parchedig Rhian Linecar