Salm 145
Gyda’r olaf o’r Salmau a fu’n destun myfyrdod gennym dros yr ychydig wythnosau aeth heibio, awn yn ôl i’r cyntaf. Mae’r ddwy fel ei gilydd yn cynnig rysáit dedwyddwch. Prif gynhwysyn y rysáit yn y Salm hon yw dysgu bendithio Duw, sut bynnag mae arnom, bob dydd (2a).
Mae’r Salm yn dechrau’n hyderus: bendithiaf dy enw ... Bob dydd bendithiaf di, a moliannu dy enw byth bythoedd (1&2). Mae’r awdur yn mynnu, beth bynnag ddaw, mai graslon a thrugarog yw’r ARGLWYDD, araf i ddigio, a llawn ffolineb. Gofala’r ARGLWYDD am bawb sy’n ei garu ... (8&20a).
Mae Salm 145 yn unigryw gan fod yr awdur yn canu clod i Dduw am bethau da a drwg. Mae’r adnodau yn yr Hebraeg gwreiddiol yn dilyn trefn y wyddor Hebraeg. Penllanw’r dilyniant yw’r datganiad hyderus, grymus derfynol: Llefara fy ngenau foliant yr ARGLWYDD, a bydd pob creadur yn bendithio’i enw byth bythoedd (21).
Mae’r adnodau agoriadol yn gosod cywair y salm: Dyrchafa di, fy Nuw, O Frenin, a bendithiaf dy enw byth bythoedd. Bob dydd bendithiaf di, a moliannu dy enw byth bythoedd. (1 & 2, ychwanegwyd y pwyslais). Mae’r geiriau hyn yn gadarn, sicr; dyma fynegiant hyderus, cryf o ffydd yn, a chariad tuag at Dduw.
Mynegir hyn, gan gydnabod llawenydd a thristwch bywyd, iechyd ac afiechyd, llwyddiant a methiant. Yn adnodau 6 a 7 maen nhw yn cyhoeddi grym gweithredoedd Duw, ac yn diolch am ei ddaioni helaeth ond nid oes cyfeiriad at boen a dolur bywyd. I’r gwrthwyneb mae’r awdur yn mynnu cyhoeddi awdurdod Duw ym mhob peth; mae cariad Duw ar waith ym mhob peth a thrwy bob peth: Fe gynnal yr ARGLWYDD bawb sy’n syrthio. Ac uniona’r holl rai gwargam (14).
Nid yw awdur y Salm yn honni deall ffyrdd Duw, ond ŵyr yn iawn, ym mhêr ei esgyrn mae da yw Duw - Duw cariad yw - Duw ydyw sydd yn gyfiawn yn ei holl ffyrdd, ac yn ffyddlon yn ei holl weithredoedd (13;17). Credai’r awdur mai Duw yw creawdwr, cynhaliwr a brenin y bydysawd. Nid oes dim yn bodoli ar wahân i Dduw. Er iddo fethu deall sut, fe ŵyr fod gan Dduw'r gallu i blethu pob dioddefaint a drygioni i mewn i batrwm ei fwriad cariadlawn ar gyfer ei bobl. Mynnai’r Salmydd ganu clod i’r Duw sydd iddo yntau’n Dduw mawr, a theilwng iawn o fawl, gan gydnabod bod ei fawredd yn anchwiliadwy (3).
F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen.
(OLlE)