Heddiw, tro Eglwys Minny Street oedd hi i wahodd Eglwysi Crwys, Ebeneser, Tabernacl a Salem i ymuno â ni yn Oedfaon y Sul. Y Parchedig Carwyn Siddall, Llanuwchllyn oedd ein Cennad Gwadd. Diolch iddo am bregethu meddylgar a phregethau gafaelgar a gwerthfawr.
Cofiwn i ni, fel eglwysi, ganolbwyntio ar Bangladesh ac effeithiau newid hinsawdd ar y wlad a’i phobl yn ystod Wythnos Cymorth Cristnogol eleni. Wrth i’r wythnos ddod i’w therfyn, ar Mai 21, trawodd Seiclon Roanu arfordir deheuol Bangladesh. Gorfodwyd hanner miliwn o bobl i adael eu cartrefi. Bu i’r cenllif glaw, y llifogydd a’r tirlithriadau ladd a niweidio nifer o bobl; dinistriwyd 85 mil o gartrefi, a difethwyd cnydau a thir amaeth. Tri mis yn ddiweddarach mae’r galw am gysgodfannau, dŵr glân, bwyd, ac adnoddau glendid a charthffosiaeth i wynebu’r fath sefyllfa enbydus yn parhau ac felly buom, trwy gyfrwng casgliad oedfaon y dydd yn cyfrannu tuag at Apêl Seiclon Roanu, Bangladesh Cymorth Cristnogol.
Salm 51 yw thema Myfyrdod Awst y Gweinidog heddiw. Yn y ddwy oedfa cafwyd cyfle i gyfrannu nwyddau i Fanc Bwyd Caerdydd. Braf fu parhau mewn cymdeithas dros baned o de yn y Festri ar ôl yr Oedfa Hwyrol.