Pa garol sydd orau gennych tybed?
'Dewch i Weled' yw’n ffefryn i, a hynny ers i mi ei chlywed hi gyntaf oll. Dwi’n credu mai gan Val - lliwgar siwmperog - Doonican glywais i hi gyntaf. Bu Christmas Special Val Doonican yn rhan annatod o’n Nadolig ninnau fel teulu am flynyddoedd lawer. Daw’r alaw o Tsiecoslofacia. 'Dewch i Weled', neu yn Saesneg The Little Drummer Boy ... parym pym pym pym. Hoffi’r alaw oedd y man cychwyn blynyddoedd yn ôl, ond erbyn hyn dwi wedi dotio llwyr ar y syniad sydd wrth wraidd y garol: bachgen bach yn sefyll wrth ochr preseb y baban Iesu yn taro drwm ...parym pym pym pym! Gyda'r bugeiliaid a'r doethion, Mair a Joseff a’r baban Iesu, sydd efallai’n cysgu, mae bachgen bach yn taro a tharo a tharo’i ddrwm ... parym pym pym pym.
Dewch i weled, parym pym pym pym
y brenin yn y gwair, parym pym pym pym
a rhoddion werth ei fodd, parym pym pym pym
a ddygwn iddo’r rhodd, parym pym pym pym
rym pym pym pym, rym pym pym pym
cyfarch Brenin nef, parym pym pym pym
wnawn yn llon.
Mae neges bwysig yn y darlun hwn. Oni ddylasid amddiffyn y bychan Iesu rhag y fath sŵn? Oni ddylai Duw a thad ein Harglwydd Iesu rhoi taw ar y ... parym pym pym pym? Na. Dyma’r ymgnawdoliad: Duw yn byw yng nghanol sŵn pobl ... parym pym pym pym y ddynoliaeth.
Nyni yw’r bachgen bach ‘ma, ac mae sŵn aflafar ein clatsio, taro ac ergydio o’n cwmpas ymhob man. Crefydda gochelgar, di-antur ... parym pym pym pym. Ffydd ddof, ddiflas ... parym pym pym pym. Creulondeb a rhyfela yn enw Duw ... parym pym pym pym. Sŵn, sŵn y drwm! Amherseinedd y drymiau!
Faban Iesu, parym pym pym pym
does gennyf fi ddim byd, parym pym pym pym
i’w roddi ger dy fron, parym pym pym pym
ond ceisio wnaf yn llon, parym pym pym pym
rym pym pym pym, rym pym pym pym
roddi cân i Ti, parym pym pym pym
ar fy nrwm.
Ond, gall Duw â’i gariad greu o’n sŵn, rythm. Rhaid cydnabod, i ddechrau ein dibyniaeth arno; sylwch: Does gennyf fi ddim byd/i’w roddi ger dy fron parym pym pym pym. Wedyn, rhaid ceisio rhoi o’n gorau i Dduw: Ond ceisio wnaf yn llon/roddi cân i Ti/fy ngorau rof i ti parym pym pym pym. Ie, fy ngorau rof i ti parym pym pym pym. Dyna gyfrinach ffydd, cariad a gobaith. Dyma’r geiriau’n Saesneg: I played my best for him parym pym pym pym. Beth amdani gyfeillion? Yn 2016, rhown o’n gorau i Iesu ein harglwydd, ac yna cawn brofi o’r rhyfeddod hwn: gwenodd arna’ i’n dlws parym pym pym pym. Fi a’m drwm.
Mair gytunodd, parym pym pym pym
yr ych a’r oen a ddaeth, parym pym pym pym
yn nes i’m clywed i, parym pym pym pym
fy ngorau rof i Ti, parym pym pym pym
rym pym pym pym, rym pym pym pym
gwenodd arna’ i’n dlws, parym pym pym pym
fi a’m drwm.
(Katherine K. Davis cyf. Eddie Jones. ‘Awn i Fethlehem’; Pantycelyn, 1983)
(OLlE)