Diolch i’r Parchedig Gwilym Wyn Roberts (Caerdydd) am gamu i’r adwy fore Sul (10:30; cynhelir yr Ysgol Sul). Pob dymuniad da am adferiad iechyd llwyr a buan i’r Parchedig Dylan Rhys Parry (Bae Colwyn). Hyfryd bydd cael cwmni Garry Nicholas (Llan-non, Llanelli) yn ein Hoedfa Hwyrol (18:00). Gwyddom y cawn ganddynt bregethu meddylgar a phregethau buddiol a bendithlawn. Gweddïwn am wenau Duw ar Oedfaon y Sul.
Dydd Sul (25/6) Gŵyl Flodau Eglwys Dewi Sant (yn cynnwys cyfraniad gan Minny Street: Teilo Sant. Diolch i bawb a fu ynglŷn â’r trefnu) yn Eglwys Dewi Sant: ‘Yn ôl traed y Seintiau Celtaidd’.
Boed bendith Duw ar waith a chenhadaeth Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd yn Nhafwyl (Gŵyl flynyddol Menter Caerdydd i ddathlu celfyddydau a diwylliant Cymraeg yw Tafwyl) Gweddïwn y ‘daw Efe i’r ŵyl’.