Salm 51
O’th flaen, O! Dduw, ‘rwy’n dyfod,
gan sefyll o hir bell;
pechadur yw fy enw -
ni feddaf enw gwell;
trugaredd 'rwy’n ei cheisio,
a’i cheisio eto wnaf,
trugaredd imi dyro,
‘rwy’n marw onis caf.
Thomas William (1761-1844); CFf:175
Salm edifeirwch yw hon. Dyma un o glasuron llenyddiaeth grefyddol y byd. Mae’r Salmydd yn gwneud mwy na gweld ei bechod; gweithred fwriadol gan y Salmydd yw'r Salm hon i gydnabod y pechodau sydd yn chwalu'i fywyd, ac yn lladd ei berthynas â Duw. Dim ond trwy’r cydnabod a’r addunedu hyn y gwêl y Salmydd obaith am galon lân (10).
Gellid dadlau fod pedwar cam i edifeirwch. Cydnabod y drwg yn erbyn Duw; cydnabod yr angen am faddeuant gan Dduw; addunedu i droi oddi wrth y drwg ac ymroi i fyw bywyd gwell, a'r cam terfynol: derbyn maddeuant. Mae’r camau hyn yn amlwg y Salm hon.
Cydnabod y drwg:
Oherwydd gwn am fy meiau ... (3)
Yn dy erbyn di, ti yn unig, y pechais a gwneud yr hyn a ystyri’n ddrwg (4).
Wele, mewn drygioni y’m ganwyd, ac mewn pechod y beichiogodd fy mam (5).
Cydnabod yr angen am faddeuant gan Dduw:
Bydd drugarog wrthyf ... (1)
... golch fi’n lân o’m heuogrwydd, a glanha fi o’m pechod (2).
Cuddia dy wyneb oddi wrth fy mhechodau, a dilea fy holl feiau (9).
Addunedu i droi oddi wrth y drwg ac ymroi i fyw bywyd gwell:
Crea galon lân ynof, O Dduw, rho ysbryd newydd cadarn ynof (10).
... a chynysgaedda fi ag ysbryd ufudd (12).
Derbyn maddeuant:
... calon ddrylliedig ac edifeiriol ni ddirmygi, O Dduw (17).
Dyro i mi eto orfoledd dy iachawdwriaeth (12).
... fe gân fy nhafod am dy gyfiawnder (14).
... bydd fy ngenau yn mynegi dy foliant (15).
Mae cydnabod y drwg a’r angen am faddeuant, ac addunedu i droi oddi wrth y drwg yn ei gymhwyso i dderbyn maddeuant Duw. Nid bod y tri cham cyntaf yn amod maddeuant, ond maddeuant yw gwobr y camau hyn.
F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen.
(OLlE)