HYDREF NEU WANWYN, 'NID WYF FI, YR ARGLWYDD, YN NEWID'.

'Munud i Feddwl' wythnosol ein Gweinidog

Myfyrdodau Grawys gan Offeiriad yn Christchurch, Seland Newydd.

Wrth ddarllen sylweddolais …

Sylweddolais na fu i mi erioed sylweddoli fod y Grawys a’r Pasg, yn Seland Newydd, yn cyd-ddigwydd â thymor yr Hydref. Yma, yn hemisffer y Gogledd, tymor y Gwanwyn yw cefnlen y Grawys a’r Pasg. Gwëwyd gennym felly, rhwydwaith o gysylltiadau, delweddau a throsiadau sydd yn anhepgor i bob ymgais gennym i fynegi neges fawr y Pasg: wedi oerni a llonyddwch y Gaeaf, daw’r Gwanwyn a’i fywyd newydd i lonni’r greadigaeth. Mae’r blagur yn y coed yn ernes fod tyfiant a ffrwyth i ddilyn maes o law.

Wrth ddarllen y myfyrdodau hyn, sylweddolais mai anodd buasai cadw’r Grawys, a dathlu Pasg yn erbyn cefnlen tymor yr Hydref: tymor cynhaeaf a diolchgarwch; tymor ailgychwyn ysgol a choleg, tymor lliwiau euraid y coed a’r perthi, tymor diosg y dail a byrhau golau dydd - tymor ... caea’r dydd ei lygad/cysglyd yn gynt a chynt.

Os tymor tyfu ydy’r Gwanwyn, yna tymor yr heneiddio ydy’r Hydref. Os mai egni a bwrlwm sy’n hawlio Ebrill a Mai, arafwch a phwyll piau Medi a Hydref. Os yw’r Gwanwyn yn fyrbwyll wyllt mae’r Hydref yn araf ddoeth.

Wedi darllen y myfyrdodau hyn, sylweddolais mor wir yw geiriau mawr Malachi broffwyd: ... nid wyf fi, yr ARGLWYDD, yn newid ... (Malachi 3:6 BCN). Er mor annwyl gennym y cysylltiad naturiol hwnnw rhwng y Pasg a’r Gwanwyn, buddiol a da yw cofio fod neges y Pasg llawn mor fyw, ac amlwg yn nhymor yr Hydref: tymor y cysgodion mwyn, a’r golau brith. Amlygir Bywyd y Crist byw, nid dim ond trwy gyfrwng ffresni’r blagur yn glasu perth a llwyn, y mynd a’r dod o dan y bondo, a’r ddraenen ddu ar ei newydd wedd. Gwelir y Bywyd hwn hefyd yn y cysgodion tywyll, tawel; y dydd yn fyrrach na’r nos, a blas y gaeaf ar yr awel. Mae’r Bywyd hwn yn amlwg ym mhob tymor, gan nad bywyd tymhorol mohono - y bywyd sydd fywyd yn wir ydyw.

Wrth droi i wynebu’r Hydref, a pharatoi i’r Gaeaf, cofiwn, ac atgoffwn ein gilydd o’r gwirionedd mawr a fynegwyd mor gymen gan Thomas Chisholm (1866-1960):

Summer and winter, and seedtime and harvest,

Sun moon and stars in their courses above

join with all nature in manifold witness

to Thy great faithfulness, mercy and love.

Mae’r pennill yn adlais o Lyfr Galarnad - er mor brudd yr enw, llyfr llawn hyder ydyw - hyder hyderus a sawl a wŷr nad yw’r ARGLWYDD, yn newid ... (Malachi 3:6 BCN) ... ni phalla ei dosturiaethau. Y maent yn newydd bob bore ... (Galarnad 3:23)

(OLlE)