Beth yw’r ddolen gyswllt rhwng y geiriau isod a’i gilydd, ac â Eseia 6:1-8?
Daw’r ateb yfory.
Yn y cyfamser, mae croeso i chi gynnig ateb trwy gyfrwng dudalen 'CYSYLLTU' y wefan hon, neu @MinnyStreet
Tydi a wnaeth y wyrth, O! Grist, Fab Duw,
tydi a roddaist imi flas ar fyw...
(W. Rhys Nicholas, 1914-96)
Mi welaf le mewn marwol glwy',
i'r euog guddio 'i ben...
(William Edwards, 1773-1853)
Mae peraroglau gras
yn taenu o gylch i maes
awelon hedd…
(William Williams, 1717-91)
O! llefara addfwyn Iesu,
Mae dy eiriau fel y gwin…
(William Williams, 1717-91)
'R wy'n teimlo f'enaid 'n awr yn caru
yr Oen ogwyddodd droso'i ben…
(Morgan Rhys, 1716-79)