Beth yw’r ddolen gyswllt rhwng y geiriau isod a’i gilydd ac ag Eseia 6:1-8?
Y pum synnwyr.
Tydi a wnaeth y wyrth, O! Grist, Fab Duw,
tydi a roddaist imi FLAS ar fyw...
(W. Rhys Nicholas, 1914-96)
Mi WELAF le mewn marwol glwy',
i'r euog guddio 'i ben...
(William Edwards, 1773-1853)
Mae PERAROGLAU gras
yn taenu o gylch i maes
awelon hedd…
(William Williams, 1717-91)
O! LLEFARA addfwyn Iesu,
Mae dy eiriau fel y gwin…
(William Williams, 1717-91)
'R wy'n TEIMLO f'enaid 'n awr yn caru
yr Oen ogwyddodd droso'i ben…
(Morgan Rhys, 1716-79)
Yn ei weledigaeth ysblennydd o ogoniant a mawredd Duw (Eseia 6:1-8), daeth y profiad i Eseia trwy gyfrwng y pum synnwyr: gwelodd, clywodd, teimlodd, aroglodd a blasodd y proffwyd bresenoldeb y Dwyfol.
(OLlE)