Bore Sul am 10:30, Oedfa Foreol ein Gŵyl Flynyddol. Mari Fflur fydd yn arwain defosiwn yr ifanc. Hyfrydwch fydd cael croesawu Lynwen atom fel aelod, a bydd Wil Morus Jones a Dr Jishumoy Dev o ‘Bangla Cymru’ (ein helusen llynedd - £3,000) gyda ni. Yn ei sgwrs i’r plant bydd Owain yn coginio pice ar y maen! Un o gymariaethau gwych Hosea broffwyd fydd testun homili’r Gweinidog. Ymadrodd â thipyn o hiwmor ynddo; hiwmor ie, a mymryn o gerydd hefyd: Y mae fy mhobl fel teisen heb ei throi. (Hosea 7:8b).
Liw nos (18:00), edrychwn ymlaen at gael derbyn o genadwri pregethwr gwadd ein Gŵyl Flynyddol - y Parchedig Kevin Davies (Eglwysi Bethel, Penarth a’r Tabernacl, Y Barri). Gwiw gennym ei groesawu atom. ‘Rydym yn gwybod y cawn ganddo bregethu meddylgar a phregeth werthfawr. Gweddïwn am wenau Duw ar yr oedfa. Ein braint fydd cael croesawu Lala Rasendrahasina o Fadagascar a’r Parchedig Ddr Geraint Tudur. Hyfrydwch hefyd fydd cael cwmni ein brodyr a chwiorydd o eglwysi’r ddinas nos Sul; diolch am eu cefnogaeth ohonom. Hyfryd yw pob cyfle i gyd-addoli a chyd-dystio. Duw a fo’n blaid i ni gyd yn ein gweinidogaeth.
Bydd cyfle i barhau mewn cymdeithas dros baned yn y Festri wedi’r Oedfa.
Nos Lun (17/10; 19:30): ‘Cywyddaid’. Awr fach hamddenol yn y festri: defosiwn syml yn arwain at gyfle i ymdawelu ac ymlonyddu.
Babimini bore Gwener (21/9; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin. Gorffwysed bendith ar Fabimini. ‘Rydym yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal y fenter bwysig hon.