Dros y Sul, ein braint fel eglwys fydd cael gwrando cenadwri a derbyn arweiniad gan y Parchedig Ddr R Alun Evans (Caerdydd). Gwyddom y cawn ganddo bregethu meddylgar a phregethau buddiol a bendithlawn. Yn ôl ein harfer, bydd yr Oedfa Foreol am 10:30. Cynhelir yr Ysgol Sul. Bydd yr Oedfa Hwyrol am 18:00. Gweddïwn am wenau Duw ar Oedfaon y Sul.
PIMS nos Lun (24/9; 19:00-20:30 yn y Festri): Ych!
Nos Fawrth (25/9; 19:30-20:30): ‘Bethania’. Echel ein trafodaeth eleni yw ‘Ruth ac Esther’. Parhawn i astudio a thrafod y bennod agoriadol o Lyfr Ruth. Darperir nodiadau ‘Bethania’ rhag blaen ar y wefan hon bore dydd Llun.
Nos Fercher (26/9; 19:00-20:30) Cwrdd Chwarter Cyfundeb Dwyrain Morgannwg (yng Nghapel Minny Street, Caerdydd): "Lansio" Apêl Madagascar yng nghwmni'r Parchedig Robin Wyn Samuel ac Elenid Jones. (Pwyllgor Gwaith am 18:00).
Bore Gwener (28/11; 10:00): “Llynyddwch”. Paned a thrafodaeth wrth ymyl llyn llonydd y Rhath. Cawn gyfle i drafod, fesul pennod, llyfr Elfed ap Nefydd Roberts: Dehongli’r Damhegion (Cyhoeddiadau’r Gair, 2008). Echel ein trafodaeth fore Gwener fydd ‘Yr Hedyn Mwstard’ (t.27-31).