Os oes gennych Feibl wrth eich penelin, trowch os gwelwch yn dda i Lyfr Ruth, i'r bennod gyntaf. Awn drwyddi gan ganolbwyntio ar ambell adnod yn benodol:
Ruth 1:1
‘Roedd newyn ym Methlehem yn baradocs, gan mai ystyr ‘Bethlehem’ yw ‘Tŷ Bara’. Eto, ‘roedd newyn yn gyffredin yng ngwledydd y Beibl o’r amseroedd cynharaf. Weithiau byddai’r newyn yn lleol neu’n rhannol. Gweler Genesis 12:10. Ceir sôn am newyn yng ngwlad Abraham ond nid yn yr Aifft. Yn stori Ruth, mae’r newydd yn Jwda ond nid Moab.
Y prif reswm am y newyn oedd prinder glaw yn y tymor iawn, ond credai’r Iddewon mai Duw oedd yn rheoli’r glaw, a bod diffyg glaw yn arwydd o’i anfodlonrwydd ef. Trowch i Salm 105:16. Mae haneswyr yn awgrymu mai effaith rhyfel oedd y newyn y cyfeirir ato yn Ruth 1:1 (Trowch i Barnwyr 6:4). Bu’r newyn mor ddifrifol fel bu raid i deulu Elimelech ymfudo.
Nid yw’r byd eto wedi llwyddo i fynd i’r afael â newyn, ac fel yn nyddiau Ruth, effeithiau ffolineb pobl yw llawer ohono, a buasai ysbryd mwy cyfrifol yn symud llawer ohono.
Ruth 1:6
Ymadrodd cyffredin yn yr Hen Destament yw Duw yn ymweld â’i bobl, gan ddangos ei ddiddordeb ynddynt. Dengys ei gariad tuag atynt a daw mewn trugaredd a daioni; eto, ‘roedd awdur Ruth yn gwbl argyhoeddedig fod Duw hefyd yn ymweld â’i bobl mewn barn a melltith. Cyfrifid rhyfel fel ymweliad yr Arglwydd, ac offeryn yn llaw Duw oedd y gelyn i gyflawni ei bwrpas. Daw’r newyddion i Foab fod Duw wedi ymweld â’i bobl yn Jwda. ‘Roedd bara eto yn y ‘Tŷ Bara’.
‘Roedd symud o Fethlehem i Foab yn fwy o symud i deulu Elimelech nag i deulu heddiw symud o Gymru i America. Nid môr a thir oedd y gwahanfuriau mawr rhyngddynt ond gwahaniaethau iaith, diwylliant a chrefydd. I’r Iddew adeg ysgrifennu Llyfr Ruth gwlad ‘bell’ oedd pob gwlad lle nad oedd Duw yn cael ei gydnabod a’i addoli. I raddau helaeth mesurai’r Iddew bellter mewn pellter oddi wrth Dduw. Nid taith a allasid ei chyfrif mewn milltiroedd oedd y daith o Fethlehem i Foab.
Symudodd Elimelech a’i deulu mewn ffydd, gan gredu ac ymddiried yn rhagluniaeth Duw. Er bod trigolion Moab yn perthyn i bobl Israel, ‘roedd ganddynt hanes gwahanol. Disgynyddion Lot oeddent. Nid ‘plant y cyfamod’ mohonynt. Y ‘gelynion’ oedd y Moabiaid bob amser.
Deil gwahanfuriau fel hyn o hyd, ac y maent yn anodd eu goresgyn. Er bod teithio cymaint yn haws bellach nid ydym wedi llwyddo i ddileu’r pellter rhwng pobl a’i gilydd.
Ruth 1:7-9
Adeg ysgrifennu’r llyfr hwn, un i dosturio wrthi oedd y weddw; collodd ei lle yn y gymdeithas oherwydd nad oedd ŵr i’w hamddiffyn na’i chadw ganddi. Nid oedd y diwylliant ar y pryd yn un a ganiataodd i ferched sengl ennill bywoliaeth. Dyna pam y cymhellodd Naomi ei dwy ferch-yng-nghyfraith i ddychwelyd i’w hen gymdeithas lle caent gyfle i ail-briodi. Dylid cofio fod y Gyfraith Iddewig, o’i chyferbynnu â deddfau cenhedloedd eraill yn gosod llawer fwy o bwyslais ar dosturi tuag at y diamddiffyn.
Daw hyn â ni wyneb yn wyneb â gofal am y diamddiffyn yn y gymdeithas gyfoes. Nid oes drafferth anos i’w datrys yn ein plith y cyfnod hwn na thrafferth y dieithryn yn ein mysg. Cyfyd anawsterau lu, ac amlygir yr angen i geisio ymateb mewn ysbryd o gydymdeimlad a chyd-ddeall. (Trowch i Effesiaid 4:32 WM)