Edrychwn ymlaen at yr Oedfa Foreol Gynnar (9/9 am 9:30 yn y Capel). Bydd cyfle i weld a deall beth yn union sydd gan Owain mewn meddwl wrth ddweud mai cyfrinach eglwys iach yw torri corneli!
Yn yr Oedfa Foreol (10:30) bydd Owain yn dechrau ar gyfres newydd o bregethau: Llythyr Cyntaf Timotheus at Paul. Bydd y bregeth ar ffurf deialog (o fath). Darllenir pennod agoriadol llythyr cyntaf Paul at Timotheus fesul darn a bydd Owain yn ymateb i’r adnodau rheini fel Timotheus. Gellid darllen 1 Timotheus 1:1-17 rhag blaen. Diolch i Rhiannon am arwain ein gweddïau yn yr Oedfa hon.
Liw nos (18:00), byddwn yn parhau â’r gyfres ‘Anghymharol Brydferthwch Crist’. Daw’r ddau ddarlleniad o’r Hen Destament: Gardd Eden (Genesis 2:4b-9) a Salm 27. Mae prydferthwch yn gwbl anhepgor i’r ffydd Gristnogol gan mai hanfod ein ffydd yw Iesu. Pennaf berygl ein gweinidogaeth a phrif rwystredigaeth ein gwasanaeth yw’r ffaith fod pobl Iesu’n gallu gwasanaethu a gweinidogaethu’n ffyddlon ddigon heb weld prydferthwch anghymharol Iesu bron o gwbl. Y mae cynefindra ag Iesu yn arwain at ddallineb peryglus, a dylai hynny beri arswyd i ni. Diolch i Menna am arwain ein gweddïau yn yr Oedfa hon. Boed bendith.
Methu dod i’r Oedfaon? Ymunwch â ni trwy gyfrwng negeseuon trydar @MinnyStreet #AddolwnEf Dechrau toc wedi 10:30/18:00.
PIMS nos Lun (10/9; 19:00-20:30 yn y Festri): Croesawu, ffarwelio, Pitsa a Oh, the places you’ll go! gan Dr Seuss (1904-91).
Nos Fawrth (11/9; 19:30-20:30): ‘Bethania’. Echel ein trafodaeth eleni yw ‘Ruth ac Esther’ gan ddechrau gydag Ruth 1. Darperir nodiadau ‘Bethania’ rhag blaen ar y wefan hon bore dydd Llun.
Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd: y Parchedig Robin Wyn Samuel yn annerch ar "200 mlwyddiant Madagascar" 13/9 (19:30) yn Eglwys Canol y Ddinas (URC; Windsor Place). Gweddïwn am wenau Duw ar waith a chenhadaeth Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd.